206
pages
Welsh
Ebooks
2022
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe et accède à tout notre catalogue !
Découvre YouScribe et accède à tout notre catalogue !
206
pages
Welsh
Ebooks
2022
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 septembre 2022
Nombre de lectures
5
EAN13
9781786838858
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
2 Mo
Hon yw’r astudiaeth gyntaf mewn unrhyw iaith sy’n archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i gaethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838–68, sef oes aur y wasg gyfnodol Gymraeg yno. Gan ddefnyddio’r wasg gyfnodol fel sail, cyflwynir trafodaeth wreiddiol am y modd y syniai’r Cymry Americanaidd am gaethwasiaeth, un o faterion mwyaf dyrys eu gwlad fabwysiedig, a hynny yng nghyd-destun disgwrs Feiblaidd. Asesir y modd y gwnaeth syniadaeth grefyddol a chyfeiriadaeth Feiblaidd dreiddio’r erthyglau, yr ysgrifau, y darnau o farddoniaeth a’r rhyddiaith greadigol a gyhoeddwyd yng nghyfnodolion Cymraeg yr Unol Daleithiau, gan gynnig mewnwelediad unigryw i’r farn gyhoeddus Gymraeg a Chymreig-Americanaidd am gaethwasiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylanwadodd adnabyddiaeth y Cymry Americanaidd â’r Beibl yn ddwys ar eu meddwl, eu dychymyg a’u gweithgarwch o ddydd i ddydd, ac yn y gyfrol hon bwrir goleuni o’r newydd ar baradocs gwlad a goleddai gaethwasiaeth tra yn ymfalchïo yn ei rhyddid.
Publié par
Date de parution
15 septembre 2022
EAN13
9781786838858
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
2 Mo
Mae r Beibl o n tu
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Aled Llion Jones
1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)
4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)
5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)
7. John Rowlands (gol.), Y S r yn eu Graddau (2000)
8. Jerry Hunter, Soffestri r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)
9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld S r (2001)
10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)
11. Jason Walford Davies, Gororau r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004)
12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)
13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)
14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005)
15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)
16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940 (2006)
17. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)
18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)
19. Tudur Hallam, Canon Ein Ll n (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau r Jig-so (2009)
22. Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012)
23. Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013)
24. Rhiannon Marks, Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr (2013)
25. Gethin Matthews, Creithiau (2016)
26. Elain Price, Nid Sianel Gyffredin Mohoni! (2016)
27. Rhianedd Jewell, Her a Hawl Cyfieithu Dram u (2017)
28. M. Wynn Thomas, Cyfan-dir Cymru (2017)
29. Lisa Sheppard, Y Gymru Ddu a r Ddalen Wen (2018)
30. Siwan M. Rosser, Darllen y Dychymyg (2020)
Hawlfraint Gareth Evans-Jones, 2022
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopio, recordio, nac fel arall, heb ganiat d ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa r Brifysgol, Rhodfa r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN: 978-1-78683-883-4
eISBN: 978-1-78683-885-8
Cysodwyd gan Geethik Technologies, India.
Datganwyd gan Gareth Evans-Jones ei hawl foesol i w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Ond y mae ymdrech diflino y dyddiau hyn i wneud y tair plaid wleidyddol: y Democratiaid, y Dimwybyddion a r Gweriniaethwyr yn un, ac aberthu pob gwahaniaeth, er mwyn sicrhau y fuddugoliaeth o blaid eu pwnc mawr, sef Caethiwed; am hynny, Werinwyr, byddwn bybur, ac ymwrolwn - mae r Beibl o n tu.
Y Llywyddiaeth , Y Cyfaill o r Hen Wlad (Hydref 1860), 395.
I Jerry ac Eryl
Cynnwys
Diolchiadau
Byrfoddau
Termau
Y Beiblau
Rhagymadrodd
Pennod 1: Teulu Ham sy n cael eu hymlid
Pennod 2: O henffych, henffych fore clir, Pryd na bydd gorthrwm yn ein tir!
Pennod 3: I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd
Pennod 4: Hyn ydyw crefydd Crist
Pennod 5: D ylem ufuddhau i Dduw o flaen ufuddhau i ddynion
Diweddglo
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Diolchiadau
Mae fy niolch yn aruthrol i lawer am yr holl gymorth a chefnogaeth a dderbyniais yn ystod cyfnod ymchwilio a llunio r llyfr hwn.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch o waelod calon i m cyfarwyddwyr PhD, Eryl W. Davies a Jerry Hunter, am eu harweiniad doeth a u cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd. Mae r ddau wedi bod, ac yn parhau i fod, yn ysbrydoliaeth imi. Mae fy nyled yn anfesuradwy iddynt, ac iddyn nhw y cyflwynaf y gyfrol hon.
Carwn gydnabod gwerthfawrogiad gwirioneddol y gefnogaeth ariannol ac addysgiadol a gefais o ddau gyfeiriad gwahanol wrth imi weithio ar y prosiect PhD a ddaeth yn sail i r llyfr hwn; y naill gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, a r llall gan yr AHRC a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Ieithoedd Celtaidd. Roedd cael bod yn rhan o ganolfan o ymchwilwyr doethurol yn brofiad hynod a m galluogodd i ddatblygu fel ymchwilydd, a phrofi hinsawdd ddeallusol eithriadol a gr wyd gan fy nghyfoedion a n cyfarwyddwyr.
Diolch i holl aelodau staff hen Ysgol y Gymraeg a r hen Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, Prifysgol Bangor, am fod mor barod eu cymwynas, ac i r gymuned l-radd yn Ysgol y Gymraeg am y trafodaethau difyr a r cwmni.
Hoffwn gydnabod fy ngwerthfawrogiad i holl staff Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor. Treuliais gyfnodau estynedig yn archifdy r brifysgol yn pori drwy amryw gasgliadau ac yn manteisio ar arbenigedd y staff, yn enwedig, felly, Einion Thomas, Elen Simpson, a Shan Robinson. Diolch hefyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Llyfrgell Widener, Prifysgol Harvard, a Llyfrgell Gladstone, Penarl g, am eu cymorth.
Bu nifer o unigolion yn hynod gefnogol a chymwynasgar wrth i r llyfr ddatblygu. Am bob ysgogiad a sgwrs werthfawr, diolch i r diweddar Eirug Davies; i Cai F n Davies, Dafydd Guto Ifan, E. Wyn James, Bill Jones, Non Mererid Jones, Sam Jones, Sheila M. Kidd, Catherine McKenna, D. Densil Morgan, Osian Wyn Owen, Angharad Price, David Sullivan, Ll r Titus, Gerwyn Wiliams a Manon Wyn Williams. Diolch i Rhiannon ac Evan John Hughes, Emlyn Richards, a Carwyn a Nerys Siddall, am rannu n hael o u llyfrgelloedd. A diolch i Lyn Bechtel am ei harweiniad a i hamynedd wrth imi fentro dysgu Hebraeg.
Hoffwn ddiolch o waelod calon i Aled Llion Jones, golygydd y gyfres hon, am ei waith gofalus a gwybodus yn llywio r llyfr drwy r wasg, am ei sylwadau craff a doeth, ac am ei gyfeillgarwch. Pleser pur oedd cael cydweithio a dysgu cymaint ganddo.
Yn ogystal, carwn ddiolch o galon i Wasg Prifysgol Cymru am fod mor barod i gyhoeddi r gwaith, ac am yr anrhydedd iddo weld golau dydd ar adeg nodedig yn hanes y Wasg a hithau n dathlu ei chanmlwyddiant. Bu holl deulu r Wasg yn gefnogol tu hwnt a phleser oedd cael cydweithio phob un; a hoffwn enwi Llion Wigley yn benodol, am iddo fy annog i fentro gyda r gyfrol hon, a Dafydd Jones am ei arweiniad a i waith diflino.
Mae fy niolch yn enfawr hefyd i Brifysgol Bangor am y nawdd i gyhoeddi r gwaith, am y mwynhad pur o gael bod yn un o i myfyrwyr am wyth mlynedd, ac am y fraint o gael gweithio fel aelod o i staff. Diolchwn yn arw i holl aelodau r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn enwedig, felly, i Josh Andrews, Rhian Hodges, Lucy Huskinson, Cynog Prys a Peter Shapely, am eu cymwynasgarwch; ynghyd holl staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y brifysgol, am eu cyfeillgarwch; a hoffwn ddiolch i Llion Jones am ei gefnogaeth a i ewyllysgarwch.
Ar nodyn personol, carwn ddiolch i m teulu a m ffrindiau am bob cefnogaeth ac anogaeth, a diolch yn arbennig i Mam, am ei hamynedd a i hysbrydoliaeth.
Byrfoddau
ANET
J. B. Prichard (gol.), Ancient Near Eastern Texts: Relating to the Old Testament (Princeton, NJ: Princeton University Press, 1955; ail argraffiad)
CC
Cyn Crist
CH
Cod Hammurabi
JNES
Journal for Near Eastern Studies
JSOT
Journal for the Study of the Old Testament
KJV
The King James Version Bible
LI
Cod Lipit-Ishtar
NIV
The New International Version Bible
NRSV
The New Revised Standard Version Bible
OC
Oed Crist
VT
Vetus Testamentum
Termau
Diffinir yma rai o r termau llai cyfarwydd a ddefnyddir yn y llyfr.
Caeth-bleidiwr
Rhywun a oedd yn bleidiol i gaethwasiaeth.
Gwrth-gaethiwr
Rhywun a wrthwynebai gaethwasiaeth. Byddai rhai gwrth-gaethiwyr yn beirniadu caethwasiaeth ond yn dewis peidio gweithredu ar y cyd gwrth-gaethiwyr eraill, gan gefnogi dulliau r Gymdeithas Drefedigaethol: y rhain oedd y gwrth-gaethiwyr trefedigaethol. Roedd eraill yn anghytuno dulliau r Gymdeithas Drefedigaethol ac yn cefnogi cynllun i ryddfreinio r caethion yn raddol.
Diddymwr
Rhywun a gefnogai ddulliau diddymiaeth, sef terfynu caethwasiaeth yn fuan. Y diddymwyr oedd y mwyaf radical o blith y gwrth-gaethiwyr: gweithredai rhai mewn ffyrdd di-drais gan ddadlau ar sail moeseg ( moral suasion ); nod carfan arall oedd diddymu caethwasiaeth ar unwaith drwy apelio at wleidyddiaeth yn ogystal moeseg. Yn yr astudiaeth hon, defnyddir y term yn ei ystyr ehangaf i gyfeirio at y rhai a gefnogai ryddhau r caethion ar unwaith. Defnyddid amryw enwau yn y cyfnodolion i gyfeirio at y diddymwyr, gan gynnwys diddymwyr , gwrthgaethiwyr , gwrthgaethiwyr politicaidd , gwrthgaethiwyr penboethlyd , ac abolisioniaid .
Y Beiblau
Oni nodir yn wahanol, dyfynnir o r Beibl Cymraeg Newydd (1988) yng nghorff y llyfr. Gan na chyhoeddwyd Beibl Cymraeg yn America tan 1858 (cyhoeddwyd fersiwn ddwyieithog o r Testament Newydd ym 1854, a fersiwn uniaith Gymraeg ym 1859), y mae n anodd dweud pa fersiwn a ddefnyddiai Cymry America yn y cyfnod dan sylw. 1 Mae n debyg mai fersiynau o Feibl Peter Williams (1770) oedd y mwyaf poblogaidd, ond nid oes modd dweud yn bendant.
_______________
1 Eryn M. White, The Welsh Bible (Stroud, Gloucestershire: Tempus, 2007), 112-13.
Rhagymadrodd
Llyfr yw hwn am agweddau Cymry America at foeseg a chaethwasiaeth, ac amhosibl trafod hynny heb ystyried crefydd, fel y dengys sylw r Parch. R. D. Thomas (Iorthryn Gwynedd) yn Rhaglith ei gyfrol gyfoethog, Hanes Cymry America :
Mae Cymry America, er ys blyneddau, yn genedl luosog, yn bobl gyfoethog a chyfrifol, ac yn Gristionogion Beiblaidd, selog, a dylanwadol, yn y wlad hon. 1
Roedd crefydd yn rhan greiddiol o fywyd y Cymro a r Gymraes Americanaidd, a syniadaeth ac ieithwedd y Beibl yn ganolog i ddiwylliant Cymraeg America r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, roedd yr argyhoeddiad crefyddol hwn wedi ymdreiddio i wah