210
pages
Welsh
Ebooks
2012
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
210
pages
Welsh
Ebooks
2012
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 avril 2012
Nombre de lectures
0
EAN13
9780708324721
Langue
Welsh
Publié par
Date de parution
15 avril 2012
Nombre de lectures
0
EAN13
9780708324721
Langue
Welsh
Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig
Llwybrau Cenhedloedd
Cyd-destunoli’r Genhadaeth Gymreig
i’r Tsalagi
Jerry Hunter
Gwasg Prifysgol Cymru
Demy cover meddwl a dychymyg template.indd 1 28/03/2012 19:37:29Demy cover meddwl a dychymyg template.indd 2 28/03/2012 19:37:29Llwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page i
Llwybrau CenhedloeddLlwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page ii
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands
1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997;
Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)
4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)
5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis
Griffith)
6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)
7. John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000)
8. Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y
Flwyddyn 2001)
9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001)
10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)
11. Jason Walford Davies, Gororau’r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y
Flwyddyn 2004)
12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)
13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)
14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y
Flwyddyn 2005)
15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)
16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (2006)
17. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)
18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)
19. Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa
Ellis Griffith)
20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams:
21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so (2009)Llwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page iii
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Llwybrau
Cenhedloedd
Cyd-destunoli’r Genhadaeth Gymreig
i’r Tsalagi
Jerry Hunter
GWASG PRIFYSGOL CYMRU
CAERDYDD
2012Llwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page iv
h Jerry Hunter, 2012
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad
hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn
unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol,
ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan
Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn,
Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-0-7083-2471-4
e-ISBN 978-0-7083-2472-1
Datganwyd gan Jerry Hunter ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur y
gwaith hwn yn unol ag adrannau 77, 78 a 79 Deddf Hawlfraint,
Dyluniadau a Phatentau 1988.
Argraffwyd yng Nghymru gan Wasg Dinefwr, LlandybïeLlwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page v
Cynnwys
Gair Ynghylch Gair vii
Diolchiadau viii
Prolog: 1838 1
RHAN I: Y GENHADAETH GYMREIG I’R TSALAGI
1. Dinadawosgi Cymreig:
Cenhadaeth Thomas Roberts ac Evan Jones, 1821–5 13
2. Ayvwi, Llythrennedd a’r Yonega Cymreig:
Cenhadaeth Evan Jones, 1825–39 49
RHAN II: GWASG GYMRAEG AMERICA
A BRODORION Y CYFANDIR, 1838–42
3. O Gigyddion Fflorida i Ymerodraeth y Gorllewin Pell:
Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Brodorion America, 1838–42 83
4. Yr Indiaid Cymreig:
Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Llên y Madogwys 98
5. ‘Gwnaeth y wlad gam mawr a’r Indiaid ac nid yw’r eglwys
yn glir yn y peth hyn’:
Y Cenhadwr Americanaidd, Y Beread a’r Brodorion, 1840–2 117
RHAN III: DAU GYLCHGRAWN, DWY IAITH, UN GREFYDD
6. Tsalagi Atsinvsidv: Cenhadwr Llenyddol Evan Jones 129
7. Cymhlethdodau Huodledd: Y Seren Orllewinol,
Brodorion America a Chenhadaeth Evan Jones 157
Epilog: 1858 184
Mynegai 195Llwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page vi
i Richard Wyn Jones
gyda diolch am fynnuLlwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page vii
Gair Ynghylch Gair
Mae’r gair ‘Tsalagi’ a ddefnyddir yn y gyfrol hon wedi’i fenthyca o’r iaith
Dsalagi ei hun. Ceir ‘Tsierocî’ yn Geiriadur yr Academi, gair sydd wedi’i
seilio ar y Saesneg ‘Cherokee’. Ni cheir y gytsain /r/ yn yr iaith Dsalagi,
ac felly mae’r gair Cymraeg ‘Tsalagi’ yn nes at sfin y gair gwreiddiol
(a yngenir fel ‘Jalagi’ yn y dafodiaith orllewinol heddiw). Credaf fod
benthyca’n uniongyrchol o’r iaith frodorol i’r Gymraeg yn hytrach na
defnyddio gair wedi’i fenthyca o’r Saesneg yn gydnaws ag ysbryd yr
astudiaeth hon.
Gair Ynghylch Gair viiLlwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page viii
Diolchiadau
Bu cymorth staff gwahanol archifdai a llyfrgelloedd yn allweddol i
lwyddiant yr astudiaeth hon ac mae’n bleser cydnabod fy nyled
iddynt: Archifdy a Llyfrgell Cymdeithas Hanes Bedyddwyr yr U.D.
(Atlanta, Georgia); Llyfrgell ac Archifdy Prifysgol Bangor;
Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llyfrgelloedd Prifysgol Harvard; Llyfrgell
y Gyngres; Llyfrgell Prifysgol Northeastern State (Oklahoma).
Traddodais fersiynau cynnar o rai o benodau’r gyfrol hon ar ffurf
darlithoedd cyhoeddus a seminarau, ac rwyf yn ddiolchgar i staff y
sefydliadau perthnasol: Canolfan Cymry America, Prifysgol
Caerdydd; Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth;
Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd a Rhaglen Astudiaethau
Brodorol (HUNAP), Prifysgol Harvard. Deuthum wyneb yn wyneb â
nifer o broblemau ieithyddol y tu hwnt i’m gafael wan ar yr iaith
Dsalagi ac felly roedd cymorth Laura Anderson, un o sylfaenwyr
cwrs Tsalagi Adran Anthropoleg Prifysgol Oklahoma, yn
amhrisiadwy. Rwyf yn hynod ddiolchgar iddi. Diolchaf yn gynnes i Daniel
Heath Justice am ei barodrwydd i drafod fy ymchwil ar wahanol
adegau ac am ei anogaeth. Hoffwn ddiolch i Cwmni Da am noddi
cyfran o’r gwaith ymchwil hwn ac i Ifor ap Glyn yn enwedig am ei
gefnogaeth frwdfrydig o’r dechrau i’r diwedd.
Cefais gymwynasau ac anogaeth gan lawer o gyfeillion eraill hefyd.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Tim Correll, Jason Walford Davies,
Patrick Ford, Barbara Hillers, E. Wyn James, Walter Kamphoefner,
Aled Llion Jones, Bill Jones, Richard Wyn Jones, Betty Layton, Peredur
Lynch, Gethin Matthews, Catherine McKenna, Densil Morgan, Kate
Olson, Prydwyn Piper, Angharad Price, Rhys ap Rhisiart, Edgar
Slotkin, Delores Sumner, Deborah Van Broekhoven, Daniel Williams
a Rhiannon Williams.
Rwyf yn ddiolchgar iawn i bawb yng Ngwasg Prifysgol Cymru
a fu wrthi’n gweithio ar y gyfrol hon, sef Charlotte Austin, Leah
Jenkins, Siân Chapman a Dafydd Jones. Hoffwn ddiolch hefyd i
Dorothy Sullivan am ganiatáu i ni ddefnyddio’i phaentiad ar gyfer y
clawr. Diolchaf yn wresog iawn i Gerwyn Wiliams, golygydd y gyfres
hon a chyfaill parod iawn ei gymorth.
Ond i Judith, Megan a Luned y mae fy nyled fwyaf; diolchaf
iddynt eto am eu cefnogaeth ddiysgog.
viii DiolchiadauLlwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page 1
Prolog: 1838
Daeth rhifyn cyntaf Y Cyfaill o’r Hen Wlad o’r wasg ym mis Ionawr 1838.
Nid hon oedd yr ymgais gyntaf i sefydlu cyfnodolyn Cymraeg yn yr Unol
Daleithiau, ond hon fyddai’r ymgais gyntaf i lwyddo. Am weddill y
bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol
Daleithiau yn ganolog i ddiwylliant Cymry America ac felly mae’n gwbl
briodol ystyried rhifyn cyntaf Y Cyfaill o’r Hen Wlad fel carreg filltir.
Os oedd yn drobwynt yn hanes y Gymru Americanaidd newydd, roedd
1838 hefyd yn drobwynt yn hanes un o genhedloedd brodorol America, y
Tsalagi (Cherokee). Nid oedd y newydd-ddyfodiaid yn gwbl ddisylw o
helyntion y genedl frodorol ychwaith; cyhoeddwyd erthygl yn dwyn y
pennawd ‘Y Cherokeeaid’ yn Y Cyfaill o’r Hen Wlad y mis Mehefin hwnnw:
Mae Cad[fridog] Scott wedi ei anfon i wlad y Cherokeeaid, yn Nhalaith
Georgia, yn nghydâ byddin o 7000 o wyr. Y mae gosodiad Scott at y gwaith
yn profi yn amlwg, er bod y llywodraeth yn penderfynu gweithredu yn ol
cytundeb Echota Newydd, yn symudiad yr Indiaid hyn, eto y gwneir hyny
gydâ thiriondeb a phwyll. Mae yn ddrwg genym ddeall bod rhai o’r
Cherokeeaid wedi cynhyrfu yspryd rhyfelgar trwy ymosod ar a llofruddio un
1neu ddau o amaethwyr Americanaidd yn Georgia.
Ymddangosai erthyglau tebyg ar dudalennau papurau newydd a
chylchgronau Saesneg yr Unol Daleithiau, ac mae’n bosibl fod William
Rowlands, golygydd Y Cyfaill o’r Hen Wlad, wedi codi crynswth y stori o
un o’r ffynonellau hyn. Gan fod cynifer o bapurau a chylchgronau Saesneg
Americanaidd yn cael eu cyhoeddi ar y pryd, byddai cael hyd i’r union
ffynhonnell yn dasg anodd. Fodd bynnag, gan fod William Rowlands fel
rheol yn nodi’i ffynhonnell wrth gyhoeddi erthygl a gyfieithwyd o destun
Saesneg, mae’n bosibl iawn nad yw’r erthygl Gymraeg hon yn gyfieithiad
llythrennol o unrhyw destun Saesneg. Gall fod yn grynodeb o erthygl
Saesneg (neu’n gyfuniad o wahanol erthyglau Saesneg). Mae hefyd yn
bosibl iawn fod William Rowlands wedi seilio’i erthygl ef ar un o
adroddiadau swyddogol llywodraeth yr Unol Daleithiau. Fel y noda John Coward,
Prolog: 1838 1Llwybrau Cenhedlaeth (tudalennau):Layout 1 10/2/12 12:26 Page 2
roedd llawer o’r erthyglau am yr hyn a oedd yn digwydd i’r Tsalagïaid a
gyhoeddwyd ar y pryd yn deillio o’r propaganda milwrol hwn:
During the summer of 1838, when General Scott was rounding up the last of
the Cherokees, much of the news about this event originated from the War
Department or from Scott himself. General Scott’s address to the Cherokees,
for instance, was probably the most widely published report on Cherokee
removal, appearing in newspapers that published almost no other news of
2the Cherokee removal in 1838.
Yn y cyswllt hwn, mae’n werth nodi bod disgrifiad William Rowlands o
‘osodiad’ Winfield Scott a’i ymdrechion i weithredu ‘gydâ thiriondeb a
phwyll’ yn adleisio rhai agweddau ar araith y cadfridog. Er enghraifft,
dywedodd wrth y brodorion fod ei filwyr yn ‘gyfeillion’ iddynt (‘your
3friends’) gan ychwanegu’u bod ‘as kind-hearted as brave[.]’ Bid a fo am
union ffynhonnell William Rowlands, mae’r erthygl a gyhoeddodd ym
mis Mehefin 1838 – fis ar ôl i’