159
pages
Welsh
Ebooks
2016
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
159
pages
Welsh
Ebooks
2016
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 juillet 2016
Nombre de lectures
3
EAN13
9781783168941
Langue
Welsh
Er gwaethaf pwysigrwydd canolog y Rhyfel Mawr yn hanes modern Cymru, prin iawn yw’r gweithiau academaidd sy’n olrhain dylanwad maleisus a phellgyrhaeddol y rhyfel ar ddiwylliant a chymdeithas yng Nghymru. Amcan y gyfrol hon yw dechrau ar y gwaith o unioni’r cam mewn gwaith sy’n cynnwys cyfraniadau gan nifer o ysgolheigion disglair i’n cynorthwyo i ddeall yn well sut newidiodd y byd Cymreig am byth yn sgil digwyddiadau 1914–18, gan olrhain datblygiadau yng nghymdeithas a diwylliant Cymru o’r cyfnod cyn y rhyfel hyd at y presennol.
Publié par
Date de parution
15 juillet 2016
Nombre de lectures
3
EAN13
9781783168941
Langue
Welsh
Creithiau
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995) Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997) E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998) Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999) John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000) Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001) M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001) Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002) Jason Walford Davies, Gororau’r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004) Roger Owen, Ar Wasgar (2003) T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004) Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005) Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005) Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (2006) Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006) Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006) Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so (2009) Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012) Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013) Rhiannon Marks, ‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’ (2013)
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Creithiau:
Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru
Y Cyfranwyr, 2016
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-7831-6892-7
e-ISBN 978-1-7831-6894-1
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i’w cydnabod yn awduron y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Ariennir y cyhoeddiad hwn yn rhannol gan
y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Llun y clawr: Thomas Henry Matthews a Daniel Eustis Matthews.
Cyflwynedig nid yn unig i’r ddau sydd yn y llun ar y clawr, Daniel Eustis Matthews a’i frawd mawr Thomas Henry Matthews, ond i bawb o’u cenhedlaeth a brofodd amgylchiadau eithafol blynyddoedd 1914–18.
Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr o Dablau a Lluniau
Rhestr o Dalfyriadau
Manylion y Cyfranwyr
1. Rhwygau
G ETHIN M ATTHEWS
2. Cyn y Gyflafan
B ILL J ONES
3. ‘Un o Ryfeloedd yr Arglwydd’: Eglwysi Anghydffurfiol Cymru a’r Rhyfel Mawr, 1914–1915
G ETHIN M ATTHEWS
4. Yn Dal i Chwifio’r Faner: Sosialwyr a’r Rhyfel
M ARTIN W RIGHT AC A LED E IRUG
5. Ymateb Merched Cymru i Ryfel, 1914–1918
D INAH E VANS
6. ‘Yr ydym yn awr yn Ffrainc yn paratoi am Christmas Box i’r Kaiser’: Cymry America a’r Rhyfel Mawr
I FOR AP G LYN
7. ‘Rhaff ac iddi amryw geinciau’: Gwrthwynebiad i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru
A LED E IRUG
8. ‘Un o Flynyddoedd Rhyfeddaf Hanes’: Cyflwyno’r Rhyfel Mawr yn Nhudalennau Cymru yn 1917
G ETHIN M ATTHEWS
9. ‘Segurdod yw Clod y Cledd’: David Davies a’r Helfa am Heddwch Wedi’r Rhyfel Mawr
H UW L. W ILLIAMS
10. Cofio Wncl Tomi
E LIN J ONES
11. Cynan a’i Frwydr Hir â’r Rhyfel Mawr
G ERWYN W ILIAMS
12. Rhwng Ffaith a Ffuglen: Atgofion Cyn-filwyr Cymraeg mewn Cyfweliadau Ddegawdau wedi Diwedd y Rhyfel
G ETHIN M ATTHEWS
13. ‘Buddugoliaeth’/Dadrithio/Creithiau
G ETHIN M ATTHEWS
Nodiadau
Llyfryddiaeth Ddethol
Diolchiadau
Yn gyntaf, ac yn bwysicaf i’r broses o gynhyrchu’r llyfr, mae’n rhaid cydnabod ymroddiad a llafur y cyfranwyr. Heb eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd hwythau, heb sôn am eu dysg a’u hymchwil, ni fyddai’r gyfrol hon yn bod.
Fel rhan o broses cynhyrchu’r llyfr, cynhaliwyd ysgol undydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2014, o dan nawdd hael y Coleg Cenedlaethol Cymraeg, pryd rhannodd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr ffrwyth eu hymchwil. Diolch i staff y Llyfrgell am eu croeso, ac i’r gynulleidfa am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i’r Athro Paul O’Leary a’r Athro E. Wyn James am gadeirio rhai o’r sesiynau.
Wrth imi weithio ar fy mhenodau i, cefais gymorth gan lu o unigolion a sefydliadau. Yr wyf yn ddyledus i’r prosiect ardderchog Cymru1914 (a arweinir gan staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru) sydd wedi trawsnewid y ffordd o ymchwilio i flynyddoedd 1914–1918 yng Nghymru trwy ddigido trawsdoriad cyfoethog o bapurau newydd. Rwyf hefyd yn cydnabod cymorth llyfrgellydd mewn amryw lyfrgell, yn enwedig prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a chymorth Edith Hughes yn Archif BBC Cymru ac Owain Meredith o Archif ITV Cymru. Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi gallu ymgynghori â rhai sydd ag arbenigedd mewn materion milwrol: y Parch. Clive Hughes, Bernard Lewis, Dr Gerry Oram a Hywyn Williams. Ar faterion eraill cefais gymorth a chyngor gan fy nghyd-weithwyr yn Adran Hanes a’r Clasuron Prifysgol Abertawe, a chan yr Athro Christine James, Dr Manon Jones, Dr Owain Wyn Jones a Dr Llŷr Lewis.
Am eu cymorth gyda’r lluniau, mae’n rhaid rhoi diolch i Dave Gordon, Eurof Rees a Wyndham Samuel. Rwyf hefyd yn ddyledus i’r ddiweddar Rose Davies am ddiogelu’r llun sydd ar y clawr am ddegawdau, yn ogystal â chadw straeon am ei ‘hwncl Tom’ hithau’n fyw.
Rwy’n ddyledus i Dr Llion Wigley a staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu cefnogaeth a’u gwaith caled i droi’r deipysgrif yn llyfr.
Diolch arbennig personol i Rachel a Rhys am eu hamynedd, ac i fy nhad am ei waith diflino yn darllen drafftiau a chynnig gwelliannau.
Tablau
1. Amlder ymddangosiad y geiriau ‘Armagedon’ ac ‘Armageddon’ yng nghasgliad ‘Papurau Newydd Cymru Arlein’, 1820–1919
4.1. Tanysgrifiadau canghennau’r ILP yng Nghymru
7.1. Nifer o wrthwynebwyr cydwybodol gerbron llys milwrol ym Mhrydain
7.2. Nifer o wrthwynebwyr cydwybodol gerbron llys milwrol yng Nghymru
Lluniau
1. Nyrs Margaret Bevan gyda rhai o’r clwyfedigion yn yr ysbyty yn Deolali
2. William Williams yn Y Drych , 7 Tachwedd 1918
3. David Davies a’i fataliwn yn 1915
4. Bataliwn David Davies yn 1937
5. Thomas Bevan Phillips
6. Cerdyn coffa Lemuel Thomas Rees
Talfyriadau
BSP
British Socialist Party
FANY
First Aid Nursing Yeomanry Corps
ILP
Independent Labour Party Y Blaid Lafur Annibynnol
NCC
Non-Combatant Corps
NCF
No-Conscription Fellowship Y Frawdoliaeth dros Wrthod Ymrestru
OTC
Officers’ Training Corps
RAMC
Royal Army Medical Corps
RWF
Royal Welsh Fusiliers Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
SDF
Social Democratic Federation
VADs
Voluntary Aid Detachments
WAAC
Women’s Army Auxiliary Corps
WRNS
Women’s Royal Naval Service
Manylion y Cyfranwyr
Aled Eirug
Mae Aled Eirug yn astudio ar gyfer cymhwyster PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ysgrifennu ei draethawd ar ‘[W]rthwynebiad i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru’. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar erthygl a ysgrifennodd i gylchgrawn Llafur ar y pwnc ’nôl yn 1987. Bu’n bennaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru am dros ddeng mlynedd, yn ymgynghorydd cyfansoddiadol i lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ymgynghorydd arbenigol i Lywodraeth Cymru ar bolisi iaith. Mae’n gadeirydd ar y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, ac yn aelod o awdurdod S4C.
Dinah Evans
Mae Dinah Evans yn darlithio mewn hanes modern ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo yn hanes cymdeithasol a gwleidyddol Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ganlyniadau rhyfeloedd yr ugeinfed ganrif, yn enwedig ar gymdeithas yng Nghymru.
Ifor ap Glyn
Mae Ifor ap Glyn yn gynhyrchydd teledu sy’n arbenigo mewn cyfresi hanes, ac mae wedi cipio gwobr goffa Gwyn Alf Williams ddwywaith am ei raglenni. Mae wedi cynhyrchu a chyfarwyddo dwy gyfres ar hanes Cymry America gyda Jerry Hunter ( Cymry America a’r Rhyfel Cartref , 2004; America Gaeth a’r Cymry , 2006) ond mae cyfnod y Rhyfel Mawr wedi ei ddiddori erioed. Yn 2008 yn dilyn ei gyfres Lleisiau’r Rhyfel Mawr , cyhoeddodd gyfrol o’r un enw yn seiliedig ar lythyron a dyddiaduron Cymraeg o’r cyfnod.
Bill Jones
Y mae Bill Jones yn athro hanes Cymru a chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America ym Mhrifysgol Caerdydd, lle y mae wedi bod yn dysgu hanes Cymru ers 1994. Y mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Wales in America: Scranton and the Welsh 1860–1920 (1993), Welsh Reflections: Y Drych and America 1851–2001 (2001) (gydag Aled Jones) a Michael D. Jones a’i Wladfa Gymreig (2009) (gol. gydag E. Wyn James).
Elin Jones
Ar ôl ennill gradd mewn hanes modern a diploma Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen, aeth Elin Jones i Brifysgol Cymru, Aberystwyth i wneud ail MA a PhD yn hanes a llenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Bu’n dysgu mewn ysgolion uwchradd cyn symud i’r Amgueddfa Genedlaethol fel swyddog addysg. Er 1995 bu’n gweithio fel ymgynghorydd annibynnol hanes, addysg, a llywodraeth a gwleidyddiaeth i nifer o sefydliadau. Bu’n cadeirio’r tasglu a sefydlwyd gan y Llywodraeth i adolygu’r Cwricwlwm Cymreig a hanes fel rhan o’r adolygiad cyfredol ar y cwricwlwm yng Nghymru.
Gethin Matthews
Mae Gethin Matthews yn ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n awdur y cofiant cyntaf yn y Gymraeg i’r actor Richard Burton, Seren Cymru (2001). Testun ei ddoethuriaeth oedd hanes y Cymry yn y Rhuthr Aur i Columbia Brydeinig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau am helynt y cymunedau Cymraeg tramor yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ers rhedeg prosiect ‘Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein’ yn 2010–11, mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar ddylanwad y Rhyfel Mawr ar ddiwylliant a chymdeithas yng Nghymru.
Gerwyn Wiliams
Mae Gerwyn Wiliams yn athro yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor. Ymchwiliodd i’r berthynas rhwng llenyddiaeth a rhyfel a chyhoeddi’n helaeth yn y maes, er e