154
pages
Welsh
Ebooks
2013
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
154
pages
Welsh
Ebooks
2013
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 septembre 2013
Nombre de lectures
4
EAN13
9781783165834
Langue
Welsh
This experimental volume of literary criticism offers various interpretations of the work of the poet Menna Elfyn, and gives an outline of our relationship with literature and our reading habits. It is an attempt to provide a fresh interpretation of the work by experimenting for the first time in Welsh with the epistolary method of criticism, through a series of fictional letters. This is also the first extended study of Menna Elfyn's poetry: addressed to the poet's work in particular, but also looking at contemporary issues such as interpretation, performance and the marketing of literature in contemporary Wales. Academic practices are vigorously challenged by walking the line between 'fact' and 'fiction' to create a multi-vocal and readable criticism reflecting the complex and multifaceted nature of the reading process.
Publié par
Date de parution
15 septembre 2013
Nombre de lectures
4
EAN13
9781783165834
Langue
Welsh
‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’
Y MEDDWLA’R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands M.Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995) Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997) E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998) Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999) John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000) Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001) M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001) Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002) Jason Walford Davies, Gororau’r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004) Roger Owen, Ar Wasgar (2003) T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004) Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005) Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005) Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (2006) Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006) Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006) Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so (2009) Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012) Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013)
Y MEDDWLA’R DYCHYMYG CYMREIG
‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’
Golwg ar waith Menna Elfyn
Rhiannon Marks
Rhiannon Marks, 2013
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-0-7083-2674-9
e-ISBN 978-1-78316-583-4
Datganwyd gan Rhiannon Marks ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cyhoeddir gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
Llun y clawr: Listy © Katarzyna Bruniewska-gierczak | Dreamstime.com
Cyflwynir y gyfrol hon i deulu Cae’r Delyn
Cynnwys
Diolchiadau
Rhagair
Y Cyflwyniad
Yr Ohebiaeth
Ôl-Nodyn
Diolchiadau
Carwn gydnabod yn y lle cyntaf fy niolch i Brifysgol Aberystwyth am ddyfarnu imi Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig ynghyd ag Ysgoloriaeth Mair Waldo, a’m galluogodd i ganolbwyntio’n llawnamser ar gwblhau’r traethawd ymchwil a oedd yn sail i’r gyfrol hon.
Mawr yw fy nyled i’r ddau a fu’n cyfarwyddo fy ymchwil yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, sef Dr T. Robin Chapman a’r Athro Marged Haycock. Diolch o waelod calon iddynt am fy rhoi ar ben y ffordd ac am eu cyngor doeth a’u hysbrydoliaeth ar hyd y daith. Diolchaf hefyd i’m harholwyr, Dr Angharad Price a Dr Mihangel Morgan, am eu sylwadau treiddgar hwythau.
O ran y broses gyhoeddi, rwy’n ddiolchgar iawn i olygydd y gyfres hon, Yr Athro Gerwyn Wiliams, am ei awgrymiadau, ac i holl staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu gwaith diwyd. Rhaid diolch hefyd i staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am eu cymwynasau a’u cwmnïaeth ers imi ddechrau ar fy swydd yno, ac i’r Athro Sioned Davies am fy rhyddhau o ambell orchwyl a’m galluogodd i baratoi’r gyfrol hon i’w chyhoeddi.
Diolch i Menna Elfyn ac i’r cyhoeddwyr, Bloodaxe Books, am ganiatâd i ailgyhoeddi ‘Broits’, ‘Eira’ a ‘Cusan Hances’/‘Handkerchief Kiss’ (cyfieithiad gan Gillian Clarke) o’r gyfrol Perfect Blemish / Perffaith Nam: New & Selected Poems 1995–2007 (Bloodaxe Books, 2007). Diolch hefyd i Wasg Gomer am ganiatâd i ailgyhoeddi ‘Er Cof am Kelly’, Eucalyptus (Gwasg Gomer, 1995); ‘Darlleniad Barddoniaeth’, Perffaith Nam (Gwasg Gomer, 2005); a ‘Colli Cymro’ o’r gyfrol ’ Stafelloedd Aros (Gwasg Gomer, 1977). Yn ogystal, hoffwn gydnabod fy niolch i Twm Morys am ganiatâd i ailgyhoeddi ‘Three Poems with literal translations into English and Notes’ (2003).
Mae fy niolch pennaf i’m teulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth barod. Diolch yn arbennig i’m tad, Tom, am rannu â mi ei frwdfrydedd tuag at y Gymraeg a’i llên, ac i’m mam, Janet, a’m chwaer, Eleri, am gadw fy nhraed ar y ddaear gyda’u hanogaeth a’u hwyliogrwydd – ac am gynnig prynu stampiau imi. Ac yn olaf, diolch i’m cariad, Iwan, am ei frwdfrydedd a’i drylwyredd bob amser wrth ddarllen drwy’r gwaith, ac am ei amynedd di-dor pan dreuliwn fwy o amser nag a oedd yn gall ym myd fy nghreadigaeth.
Rhagair
Eir ati yn y gyfrol hon i gynnig dehongliad o waith Menna Elfyn gan ddefnyddio dull beirniadaeth epistolaidd. Cyfres o lythyrau ffuglennol at y bardd ac at ohebwraig ddychmygol ifanc o’r enw Martha a geir yma, sy’n darlunio sut y mae’r broses o ddarllen y farddoniaeth yn datblygu dros gyfnod o amser. Bwriad ategol yw herio arferion gweithiau academaidd trwy gyfuno llais ‘beirniadol’ a llais ‘creadigol’ er mwyn creu beirniadaeth aml-leisiog sy’n adlewyrchu natur gymhleth ac amlweddog y broses ddarllen.
Fel traethawd PhD yr ymddangosodd y gwaith hwn yn wreiddiol, a chan ei fod yn codi cwestiynau ynghylch holl gonfensiwn ysgrifennu traethodau o’r fath ac yn mabwysiadu dulliau ffuglennol i wneud hynny, penderfynwyd cadw mor agos â phosib at ffurf y gwaith gwreiddiol.
Y Cyflwyniad
Annwyl Ddarllenydd,
Sut mae? Diolch ichi am gydio yn y gyfrol hon a’i hagor. Wn i ddim beth a’ch denodd ati, ond gobeithiaf y gallaf eich perswadio i barhau i’w darllen. Cydnebydd Salman Rushdie fod i greu testun elfen o hap oherwydd does wybod ble y bydd yn glanio na beth fydd ei dynged. Bydd rhywun yn gobeithio’r gorau wrth ei ollwng i’r byd mawr ond eto, ni ellir bod yn sicr o ddim – ‘you’ve done what you can and you’ve set it afloat. Now it’s up to it to sink or swim.’ 1 Rhyw deimlad felly sydd gen i wrth agor hyn o astudiaeth am ddarllen gwaith Menna Elfyn. Wn i ddim ble yn union y bydd y tudalennau hyn yn cyrraedd na chwaith pwy a fydd yn cydio ynddynt ac yn eu dehongli maes o law. Wn i ddim pwy ydych chi, ddarllenydd, ond gallaf fentro dweud ychydig am ba fath o ddarllenydd y gallech chi fod.
Mewn cyfres o lythyrau dychmygol at Menna Elfyn (ie, dyna sydd i ddod), y darllenydd ffuglennol wrth reswm yw’r bardd ei hun, ac efallai fod Menna ei hun newydd agor y cloriau hyn. Os felly, dyma ofyn yn garedig ichi gofio, Menna, mai creadigaeth fy nychymyg a’m chwilfrydedd ydych chi yma. Gyda phob parch, dyfais yw’r ‘Menna’ hon: cyfrwng imi ofyn y cwestiynau hynny sy’n corddi ym meddwl rhywun wrth ddarllen ond sydd gan amlaf yn cael eu hanwybyddu fel rhai amherthnasol, annheilwng bron.
Mae’n bosibl eich bod chi wedi bod yn arholwyr imi, ac felly’n ddarllenwyr empeiraidd – hynny yw, y sawl y bwriadwyd y gwaith hwn ar eu cyfer yn wreiddiol. Rydych chi eisoes yn gyfarwydd â’r gwaith a ganlyn er pan oedd hi’n ofynnol ichi gloriannu’r llythyrau a cheisio cydbwysedd rhwng canllawiau rheoliadau’r radd a’r rhyddid y gellir yn gyfiawn ei ganiatáu i’r ymgeisydd o ran dulliau gwaith. Croeso’n ôl ichi.
Mae’n fwy tebygol, er hynny, nad ydych wedi darllen y gwaith hwn o’r blaen nac erioed wedi clywed amdano o bosib. Rwy’n dyfalu mai eich diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg neu feirniadaeth lenyddol sydd wedi eich denu at y llyfr ond eto, wn i ddim i sicrwydd. Gallaf fentro cymryd ambell beth yn ganiataol: bod Menna Elfyn yn enw cyfarwydd ichi; ac o bosibl, eich bod wedi darllen rhywfaint o’i gwaith a bod gennych ryw agwedd tuag ato. Mae lle da i dybio hefyd fod cylchoedd ein darllen yn gorgyffwrdd i’r graddau ein bod yn gyfrannog o’r un diwylliant neu’r un diwylliannau llenyddol. Ac fel etifedd yr un gynhysgaeth ddiwylliannol, byddwch wedi dod i gasgliadau mwy neu lai pleidiol ynglŷn â darlleniadau amgen.
Wrth ddychmygu fy narllenwyr fel hyn, ofnaf fy mod yn ymdebygu i Lewis Morris ar ddiwedd ei Tlysau yr Hen Oesoedd yn 1735, a ddychmyga ei ddarllenwyr yntau: ‘yn wŷr a Gwrâgedd mwynion, Diduedd, yn Bobl Garedig, Onest, yn Ewyllysgar i bawb gael rhan o’r Byd yn Gystal a hwythau, yn Caru eu Hiaith au Gwlad, a choffadwriaeth am eu Teidiau au Gweithredoedd Ardderchog.’ Rhaid pwysleisio er hynny nad ‘Er mwyn y rheini (ag i rheini yn Unig) y Cymerais y boen hon arnaf’!
Wedi dweud hynny, efallai mai un a gydiodd yn y gyfrol hon ar hap gan ddisgwyl rhywbeth arall ydych, a’ch bod yn gofyn, ‘Beth yn y byd wnaeth iti benderfynu creu cyfres o lythyrau dychmygol at Menna Elfyn a Martha?’ Rwy’n eich dychmygu yn hanner ystyried cau’r cloriau yn awr, wrth sylweddoli mai camgymeriad oedd eu hagor yn y lle cyntaf. Os felly, dyma gynnig esboniad dros ysgrifennu’r fath astudiaeth ymddangosiadol fisâr yn y gobaith y gallaf eich perswadio i barhau gyda mi ar hyn o daith.
Wel, rhaid addef nad oeddwn wedi dychmygu mentro i fyd gohebu dychmygol pan ddechreuais ar hynt fy ymchwil doethurol. Fy mwriad bryd hynny oedd astudio barddoniaeth gyfoes Gymraeg gan fenywod a chynnig dehongliad o’r hunaniaeth a amlygir yn eu gwaith. Yn sgil darllen llyfr dylanwadol Montefiore, 2 a barn Simon Brooks mai ‘[y] peth mwyaf trawiadol am feirniadaeth lenyddol ffeminyddol hyd at ddechrau’r 1990au yw cyn lleied ohoni sydd ar gael’, 3 roeddwn yn chwilfrydig ynghylch y berthynas rhwng ffeminyddiaeth a barddoniaeth ac yn awyddus i ystyried y cysyniad o ‘fardd ffeminyddol’ yng nghyswllt llenyddiaeth Gymraeg. Yn anad dim, roeddwn am ddarganfod i ba raddau y treiddiodd bwrlwm aildon ffeminyddol y 1970au a’r syniadaethau yr esgorwyd arnynt ym Mhrydain, ar gyfandir Ewrop, yn yr Unol Daleithiau a’r tu hwnt, i farddoniaeth Gymraeg gan fenywod yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif ac ar droad yr unfed ganrif ar hugain.
Sut bynnag, wrth dwrio’n aflwyddiannus mewn nifer o gylchgronau a blodeugerddi dechreuais bryderu mai bodau prin oedd beirdd ‘ffeminyddol’ per se yn y Gymraeg. Wedi ailfeddwl ac ailystyried d