164
pages
Welsh
Ebooks
2023
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
164
pages
Welsh
Ebooks
2023
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 avril 2023
Nombre de lectures
1
EAN13
9781837720330
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
4 Mo
Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.
Publié par
Date de parution
15 avril 2023
Nombre de lectures
1
EAN13
9781837720330
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
4 Mo
Griffith Davies
Golygyddion y Gyfres
Gareth Ffowc Roberts Prifysgol Bangor
John V. Tucker Prifysgol Abertawe
Iwan Rhys Morus Prifysgol Aberystwyth
Hawlfraint Haydn E. Edwards, 2023
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogop o, recordio, nac fel arall, heb ganiat d ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa r Brifysgol, Heol Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig
ISBN 978-1-83772-031-6
eISBN 978-1-83772-033-0
Datganwyd gan Haydn E. Edwards ei hawl foesol i w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer cyhoeddi r llyfr hwn.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yny cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Llun y clawr: Owain F n Williams, Gwers yn y chwarel (2022), olew ar fwrdd; trwy ganiat d
I Jan
Portread o Griffith Davies ( Trwy ganiat d caredig Amgueddfa Cymru )
CYNNWYS
Rhagair Golygyddion y Gyfres
Rhestr o Luniau
Diolchiadau
Rhagair
1 Bore Oes
2 Y Chwarelwr
3 I Lundain a Dysgu
4 Yr Actiwari
5 Yr Ymgyrchydd
6 Yr Alltud
7 Arloesi ac Anrhydeddau
8 Y Penteulu
9 Addysg a Chymwynasau
10 Yr Hybarch
11 Cefnogi a Chrefydda
12 Pen y Daith ac Epilog
Nodiadau
RHAGAIR GOLYGYDDION Y GYFRES
O r Oesoedd Canol hyd heddiw, mae gan Gymru hanes hir a phwysig o gyfrannu at ddarganfyddiadau a menter gwyddonol a thechnolegol. O r ysgolheigion cynharaf i wyddonwyr a pheirianwyr cyfoes, mae Cymry wedi bod yn flaenllaw yn yr ymdrech i ddeall a rheoli r byd o n cwmpas. Mae gwyddoniaeth wedi chwarae r l allweddol o fewn diwylliant Cymreig am ran helaeth o hanes Cymru: arferai r beirdd llys dynnu ar syniadau gwyddonol yn eu barddoniaeth; roedd gan w r y Dadeni ddiddordeb brwd yn y gwyddorau naturiol; ac roedd emynau arweinwyr cynnar Methodistiaeth Gymreig yn llawn cyfeiriadau gwyddonol. Blodeuodd cymdeithasau gwyddonol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thrawsffurfiwyd Cymru gan beirianneg a thechnoleg. Ac, yn ogystal, bu gwyddonwyr Cymreig yn ddylanwadol mewn sawl maes gwyddonol a thechnolegol yn yr ugeinfed ganrif.
Mae llawer o r hanes gwyddonol Cymreig cyffrous yma wedi hen ddiflannu. Amcan cyfres Gwyddonwyr Cymru yw i danlinellu cyfraniad gwyddoniaeth a thechnoleg yn hanes Cymru, i chyfrolau n olrhain gyrfaoedd a champau gwyddonwyr Cymreig gan osod eu gwaith yn ei gyd-destun diwylliannol. Trwy ddangos sut y cyfrannodd gwyddonwyr a pheirianwyr at greu r Gymru fodern, dadlennir hefyd sut y mae Cymru wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad gwyddoniaeth a pheirianneg fodern.
SERIES EDITORS' FOREWORD
W ales has a long and important history of contributions to scientific and technological discovery and innovation stretching from the Middle Ages to the present day. From medieval scholars to contemporary scientists and engineers, Welsh individuals have been at the forefront of efforts to understand and control the world around us. For much of Welsh history, science has played a key role in Welsh culture: bards drew on scientific ideas in their poetry; renaissance gentlemen devoted themselves to natural history; the leaders of early Welsh Methodism filled their hymns with scientific references. During the nineteenth century, scientific societies flourished and Wales was transformed by engineering and technology. In the twentieth century the work of Welsh scientists continued to influence developments in their fields.
Much of this exciting and vibrant Welsh scientific history has now disappeared from historical memory. The aim of the Scientists of Wales series is to resurrect the role of science and technology in Welsh history. Its volumes trace the careers and achievements of Welsh investigators, setting their work within their cultural contexts. They demonstrate how scientists and engineers have contributed to the making of modern Wales as well as showing the ways in which Wales has played a crucial role in the emergence of modern science and engineering.
RHESTR O LUNIAU
1 Portread o Griffith Davies (Trwy ganiat d caredig Amgueddfa Cymru)
2 Achau Griffith Davies
3 T Croes (Hawlfraint Archifdy Gwynedd)
4 Beudy Isaf (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
5 Ardal magwraeth Griffith Davies
6 Y llyfr ar drigonometreg, 1814 (Hawlfraint The Royal Society)
7 Tudalen o r llyfr ar drigonometreg, 1814 (Hawlfraint The Royal Society)
8 Rhai o r blociau ar gyfer y llyfr ar drigonometreg, 1814 (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
9 Cynllun y deial haul
10a a 10b Y fedal. Gwobr am gynllun y deial haul (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
11 Y llyfr ar yswiriant bywyd a r tablau colofnog, 1825 (Hawlfraint The Royal Society)
12 Enghraifft o dablau o lyfr, 1825 (Hawlfraint The Royal Society)
13 Deisyfiad i r senedd gan Griffith Davies ar ran y tyddynwyr (Hawlfraint Yr Archifau Cenedlaethol, Kew)
14 Pam ed Pwyllgor Amddiffyn y Tyddynwyr (Trwy ganiat d caredig Archifdy Prifysgol Bangor)
15a a 15b Offer arddangos yn y Cymreigyddion. Ysgythriadau gan Hugh Hughes (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
16 Tystysgrif derbyn Griffith Davies yn Gymrawd o r Gymdeithas Frenhinol (Hawlfraint The Royal Society)
17 Cyfarfod o r Gymdeithas Frenhinol yn Somerset House (Hawlfraint The Royal Society) 128
18 Tystysgrif Griffith Davies fel aelod tramor o gymdeithas Ffrengig ar gyfer ystadegaeth byd-eang (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 130
19 Traethawd ar gymdeithasau cyfeillgar, 1841 (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 135
20 Mary Holbut a i merch Sarah (Hawlfraint Storiel, Bangor)
21 Lleoliadau yn Llundain
22 Griffith Davies (Trwy ganiat d Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
23 Duncan Terrace heddiw
24 Llythyr i gefnogi Arfonwyson (Atgynhyrchwyd gyda chaniat d caredig Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt) 166
25 Griffith Davies (Hawlfraint Archifdy Gwynedd) 183
26 Bedd Griffith Davies ym mynwent Abney Park (bedd 13184)
27 Y gofeb lechen ger Beudy Isaf, Y Groeslon 214
28 Portread o Griffith Davies gan Robert Hughes (Trwy ganiat d caredig y perchennog)
DIOLCHIADAU
Y n y rhan yma o r llyfr rwy n cael cyfle i gydnabod y cymorth sylweddol a gefais wrth ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyhoeddi. Treuliais amser gwerthfawr mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau. Cefais gefnogaeth arbennig gan Elen Simpson, pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ynghyd nifer o staff eraill yr archifdy, llyfrgell y brifysgol, a Helen Gwerfyl, swyddog casgliadau, Storiel. Yng Ngwynedd hefyd rwy n ddiolchgar iawn i Dr Dafydd Roberts, ceidwad yr Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis am ei gymorth parod a r un modd i Lynn C. Francis, prif archifydd, a staff eraill Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon. Bu Andrew Renton, pennaeth casgliadau dylunio Amgueddfa Cymru, a Beryl Evans, rheolwr gwasanaethau ymchwil y Llyfrgell Genedlaethol, yn gefnogol iawn i r gwaith hefyd.
Yn Llundain, treuliais amser mewn nifer o ganolfannau ac rwy n ddiolchgar iawn i r canlynol am bob cymorth: Amy E. Proctor (archifydd yn Archifdy Metropolitanaidd Llundain), Bef Yigezu (Canolfan Hanes Lleol Islington), Hannah Cleal (Archifdy Banc Lloegr), nifer o lyfrgellwyr yn ystafell ddarllen astudiaethau Asiaidd ac Affricanaidd y Llyfrgell Brydeinig, Haydn Schaare (Ymddiriedolaeth Abney Park), Rupert Baker ac Ellen Embleton (Y Gymdeithas Frenhinol) a staff Yr Archifau Cenedlaethol yn Kew.
Fodd bynnag, bu un yn Llundain o gymorth eithriadol i mi gyda r gwaith - David Raymont, llyfrgellydd Athrofa r Actiwar aid (The Institute and Faculty of Actuaries). Mawr yw fy niolch iddo. Atebodd David fy mynych gwestiynau a m cynghori ar nifer o faterion. Trefnodd i mi gyfarfod Trevor Sibbett, cyn-actiwari oedd wedi gweithio drwy i oes i gwmni r Guardian ac yn un o brif haneswyr y proffesiwn. Teithiodd Trevor gryn bellter i m cyfarfod yn Llundain a buom yn gohebu n rheolaidd. David hefyd wnaeth fy nghyflwyno i r diweddar Dr Stewart Lyon, cyn-lywydd Athrofa r Actiwar aid, a chefais nifer o sgyrsiau ff n defnyddiol am waith actiwari.
Yn ychwanegol i r sefydliadau a enwir uchod, rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i r llyfrgelloedd, archifdai, prifysgolion a r sefydliadau goleuedig hynny sydd wedi digideiddio rhannau o u casgliadau. Yng nghyfnod y pandemig ni fyddai r gwaith wedi mynd rhagddo heb yr adnoddau hyn. Braint oedd cael dychwelyd ar l y cyfnod clo i rai o r archifau a r llyfrgelloedd unwaith eto a chael cyfle i dystio i arbenigedd a sgiliau staff wrth egluro, dehongli a chyfeirio.
Rwy n ddyledus iawn i nifer o unigolion mewn sawl cylch am rannu eu gwybodaeth ac am eu cymwynasau niferus dros gyfnod yr ymchwil. Cymerodd William J. Parry (cyn-ymgynghorydd orthodonteg Ysbyty Gwynedd) ddiddordeb byw yn yr ymchwil a m cyfeirio at lawysgrifau gan deuluoedd lleol. Yn yr un modd bu r Athro Gareth Ffowc Roberts, golygydd y gyfres Gwyddonwyr Cymru, o gymorth ymarferol drwy gydol y gwaith. Bu i mi droi ato nifer o weithiau am gyngor a barn. Pleser hefyd yw cael cydnabod cefnogaeth Nicola Bruton Bennetts, Glennys Hughes, Gwilym R. Hughes, y diweddar Dr J. Elwyn Hughes, Islwyn Humphreys, Dr Gareth Huws, yr Athro E. Wyn James, Dr David Jenkins, Bleddyn Jones, Geraint R. Jones, Peter Lord, Sue Manston, Merfyn Morgan, Iwan Roberts, Maira Rowlands, Angharad Tomos, John Dilwyn Williams, Robyn Williams a Gari Wyn. Diolch i chwi un ac oll.
Mae fy nheulu agosaf, Jan, Mari, Rhys a Gwenno, wedi trafod a darllen drafftiau o r gwaith ac rwy n ddiolchgar iddynt am eu sylwadau a u hanogaeth. Treuliodd Jan a Rhys, yng nghanol e