130
pages
Welsh
Ebooks
2023
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
130
pages
Welsh
Ebooks
2023
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 avril 2023
Nombre de lectures
1
EAN13
9781837720279
Langue
Welsh
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.
Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.
Publié par
Date de parution
15 avril 2023
Nombre de lectures
1
EAN13
9781837720279
Langue
Welsh
Cranogwen
Dawn Dweud
Golygydd y Gyfres: Simon Brooks
Cyfres o fywgraffiadau llenyddol a diwylliannol a gychwynnwyd ym 1994 yw Dawn Dweud, sy’n amcanu cyflwyno ymdriniaeth feirniadol ar waith awdur nid yn unig o fewn fframwaith cronolegol, ond gan ystyried yn arbennig hynt a helynt bywyd, syniadaeth, personoliaeth ac arwyddocâd i’r gymdeithas ehangach. Cyhoeddwyd pedair cyfrol ar ddeg yn y gyfres hyd yn hyn – yn eu tro dan olygyddiaeth Brynley F. Roberts, Branwen Jarvis, Mihangel Morgan a Simon Brooks – ar ffigurau llenyddol, gwleidyddol a hanesyddol, o Cranogwen a Daniel Owen i T. H. Parry-Williams a John Morris-Jones.
Cranogwen
Jane Aaron
Hawlfraint © Jane Aaron, 2023
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-83772-025-5
e-ISBN 978-1-83772-027-9
Datganwyd gan Jane Aaron ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Llun y clawr: Meinir Mathias, Cranogwen (2020), olew ar fwrdd; trwy ganiatâd. Dyluniad y clawr: Olwen Fowler
I’M CHWIORYDD MARGARET SHARP A GWEN AARON gyda llawer o gariad a phob diolch
Cynnwys
Diolchiadau
Rhagarweiniad
1 ‘Merch y Graig’
2 ‘Merch y Lli’
3 ‘Yr Awenferch’
4 ‘Llafur a Llwyddiant’
5 Tu Draw i’r Iwerydd
6 ‘Fy Ffrynd’
7 ‘Yr Ol’ a’i ‘Brythonesau’
8 Modryb Gofidiau
9 ‘Yr Efengyles’
10 ‘Byddin Merched Dewr y De’
Nodiadau
Diolchiadau
W rth gyhoeddi’r cofiant hwn, rhaid cydnabod fy nyled yn gyntaf i’r cofianwyr a fu o’m blaen. Mae deugain mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r cofiant diwethaf i Cranogwen, sef Cranogwen: Portread Newydd (1981) gan Gerallt Jones. Rhaglen radio a ddarlledwyd yn 1955 a roddodd fod i’r gyfrol honno, ac mae’n cynnwys cyfweliadau difyr a recordiwyd ar ddechrau’r 1950au gyda rhai a gofiai Cranogwen. Dilyniant ydyw i’r cofiant swyddogol o waith David Glanaman Jones, Cofiant Cranogwen , a gyhoeddwyd yn 1932 dan nawdd Undeb Dirwestol Merched y De. Cyfaill i Cranogwen a chyd-weithiwr iddi yn y mudiad dirwest oedd ef, ac mae ei atgofion amdani ym mlynyddoedd olaf ei gyrfa yn enwedig yn werthfawr iawn. Ond os am ddarlun byw ohoni o’r 1880au ymlaen ni cheir tystiolaeth well na’r gyfres o erthyglau ‘Yng Nghymdeithas Cranogwen’ gan Ellen Hughes, a ymddangosodd yn fisol yn y cylchgrawn Y Gymraes rhwng Chwefror 1923 a Rhagfyr 1925. Mae fy nyled yn fawr i’r holl gyhoeddiadau hyn, er nad ydynt, wrth gwrs, yn llenwi bwlch yr hunangofiant a gollwyd – y llawysgrif gan Cranogwen yn cynnwys hanes ei bywyd yn ‘lled gyflawn’, yn ôl D. G. Jones, a adawodd ar ei hôl ar daith trên ac na ddaethpwyd byth o hyd iddo wedyn.
Fodd bynnag, oddi ar yr 1980au, mae adnoddau newydd wedi trawsffurfio gwaith y cofiannydd sydd ar drywydd ffigwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ogystal â’r cyfoeth o astudiaethau a gyhoeddwyd yn y degawdau diwethaf ar sefyllfa arbennig y fenyw yn oes Fictoria, rhaid diolch hefyd am yr holl ddeunydd archifol sydd heddiw ar gael ar y we, yn enwedig ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Papurau Newydd Cymru’ a ‘Cylchgronau Cymru’. Trwyddynt hwy daethpwyd o hyd i dros 4,000 o gyfeiriadau at Cranogwen rhwng 1865 a 1916, rhai ohonynt yn arwain at ysgrifau a gyhoeddwyd ganddi a oedd cyn hynny’n anhysbys.
Carwn ddiolch o galon hefyd i amryw o gyfeillion a’m hanogodd ymlaen â’r gwaith. Fel golygydd y gyfres ‘Dawn Dweud’, bu Simon Brooks o’r cychwyn yn frwd ei gefnogaeth, a diolch yn fawr hefyd i Llion Wigley a Gwasg Prifysgol Cymru am eu gwaith graenus a’u gofal manwl wrth gyhoeddi’r gyfrol. Diolch yn ogystal i Rhidian Griffiths, Huw Walters a staff presennol y Llyfrgell Genedlaethol am eu cymorth rhadlon. Ym misoedd olaf y gwaith, elwais yn fawr hefyd ar drafodaethau bywiog y criw o ferched a ddaeth ynghyd yn Llangrannog gyda’r bwriad o godi cerflun o Cranogwen yn ei phentref genedigol: diolch yn enwedig i Anne-Marie Bollen, Catrin Ifan ac Elin Jones. Mae eu hamcan heddiw ar fin ei gyflawni gyda chymorth y mudiad Merched Mawreddog. Yn olaf, ac yn fwyaf oll, diolch o galon i’r tri a ddarllenodd fersiynau cynnar o’r gyfrol hon ac a gyweiriodd amryw wall ac amryfusedd, sef Rosanne Reeves, Rita Singer, a’m gŵr John Koch. Bu eich cefnogaeth yn amhrisiadwy, ac ni fyddai’r gyfrol yn bod heboch.
Rhagarweiniad
Y n yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mis Medi 1865, cafodd y gynulleidfa a ddaeth ynghyd i wrando ar y feirniadaeth ar gerdd dan y teitl ‘Y Fodrwy Briodasol’ syndod i’w gofio. Yn ôl y si ar y maes o flaen llaw, roedd y gystadleuaeth wedi bod yn un boblogaidd, gyda dau ar hugain wedi ymgeisio ac yn eu plith rai o brifeirdd enwocaf yr oes, gan gynnwys Islwyn a Ceiriog. Wrth i’r beirniaid, Hwfa Môn ac I. D. Ffraid, roddi eu dyfarniad, canmolasant un o’r ceisiadau fel yr ‘oreu o ddigon’, 1 sef cais a gynigwyd dan y ffugenw ‘Muta’ – hynny yw, yr un a wnaethpwyd yn fud. Ond nid Islwyn na Ceiriog nac unrhyw ŵr arall a gododd o’r dorf wedi i’r Archdderwydd alw ar ‘Muta’ i ddyfod i’r llwyfan i dderbyn y wobr, ond menyw ifanc, Miss Sarah Jane Rees o Langrannog. Heb fod mwyach yn fud, daeth Miss Rees yn enwog trwy Gymru wedi hynny dan yr enw ‘Cranogwen’.
‘Nid anghofiaf byth yr olygfa honno ar y dydd y darllenwyd y feirniadaeth,’ meddai un a oedd yno yn dyst i’w champ. ‘Mawr ganmolai y beirniaid un o’r cyfansoddiadau – y goreu; a phan alwyd ar y buddugol i ddod yn mlaen, wele enethig wledig yr olwg arni, yn codi yn mysg y gynulleidfa ac yn mynd i fyny i’r llwyfan i dderbyn y wobr yn nghanol banllefau.’ 2 Ond nid pawb yn y gynulleidfa oedd yn cymeradwyo: gwrthodai rhai ohonynt gredu y gallai menyw ifanc gyfansoddi cerdd a dderbyniodd y fath ganmoliaeth. Protestiodd un o’r ymgeiswyr aflwyddiannus yn hallt ac yn gyhoeddus yn y fan a’r lle yn erbyn y dyfarniad. Mae’n debyg fod gan John Puw, crydd o Ddolgellau, ‘gryn feddwl ohono ei hun fel bardd’:
Yr oedd yn y gystadleuaeth am y ‘Fodrwy Briodasol’ yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865, ac yr oedd yn meddwl cymaint o’i gyfansoddiad fel yr aeth ef a Chati Puw, ei wraig, yno i ’nol y wobr, – ’doedd dim dowt. Ond pan welodd ferch ieuanc yn myned i fyny i ’nol y wobr, dyma fo yn dweyd yn ddigon uchel i bawb o’i ddeutu ei glywed, – “Tyd odd’ma, Cati, ’does yma ddim chware teg i gial yn y fan yma – rhoi gwobr i ryw hogan fel yna!” 3
Dilynwyd Cranogwen trwy flynyddoedd nesaf ei gyrfa gan yr un cyfuniad o groeso syn ond gwresog a sarhad anghrediniol. Oes y Ddarlith oedd yr 1860au yng Nghymru; wrth godi rhyw chwe cheiniog y pen am docyn i’r ddarlith, gallai capel a lwyddodd i ddenu darlithiwr poblogaidd ennill swm go ddefnyddiol er mwyn talu dyledion adeiladu’r capel. Sylweddolodd rhai o ddiaconiaid ei henwad, sef y Methodistiaid Calfinaidd, fod y ferch a gurodd Islwyn a Ceiriog wedi ennyn y fath awydd ymhlith ei chyd-Gymry i’w gweld a’i chlywed nes y byddai ei pherswadio i gychwyn ar yrfa fel llefarydd cyhoeddus yn debyg o brofi’n dra phroffidiol. Cychwynnodd Cranogwen ar ei gyrfa fel darlithydd yn Aberteifi yn Rhagfyr 1865, ac aeth ymlaen wedi hynny i draethu i gynulleidfaoedd mawrion ym mhob twll a chornel o Gymru, ac i’r Cymry oddi cartref yn Lloegr a’r Unol Daleithiau yn ogystal. Âi i bob man a estynnai iddi wahoddiad, i’r pentrefi bychan diarffordd yn ogystal â’r dinasoedd mawrion, a darlithiodd nid yn unig yng nghapeli’r Methodistiaid, ond gyda’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yn ogystal. Hawdd dychmygu’r syndod a gafodd pentrefwyr Cymru yn yr 1860au wrth weld am y tro cyntaf ferch yn sefyll i’w cyfarch o’r pulpud neu’r sedd fawr yn eu capeli. Gwelsant y blaenoriaid yn dangos pob parch iddi, clywsant y beirdd lleol yn ei chyfarch â chaneuon o fawl, a hithau’n traethu ar bynciau megis ‘Y Plant a’u Haddysg’, ‘Anhepgorion Cymeriad Da’, ‘Yr Ieuenctid a Diwylliant eu Meddyliau’ ac ‘Elfennau Dedwyddwch’.
Yn ystod 1866–7 lledodd enwogrwydd Cranogwen fel fflam ar draws Cymru. ‘Y mae y ddarlithyddes enwog hon yn dyfod yn fwy i sylw y wlad y naill wythnos ar ol y llall, a’r galw am dani yn cynyddu yn gyfatebol’, meddai’r Gwladgarwr amdani ym mis Medi 1866. 4 I ohebydd yn y Faner ym mis Medi 1866 yr oedd ‘Miss Rees (Cranogwen), megys seren wibiol yn teithio mewn gogoniant trwy awyrgylch foesol ein gwlad’. 5 Erbyn Mai 1867, yn ôl Y Gwladgarwr , yr oedd ei hapêl yn dal i gynyddu, ‘a’i darlithiau wedi myned yn hynod boblogaidd … y mae rhyw ysfa yn mhawb braidd am gael ei gweled a’i chlywed’. 6 Ac ar ôl iddi roi ei darlith ar ‘Elfennau Dedwyddwch’ yn Llangollen yn haf yr un flwyddyn, ysgrifennodd ‘un a oedd yno’ i’r Faner i’w hysbysu, yn hollol ddifrifol, fod Cranogwen ‘yn para yn ei pherffeithrwydd. Yn wir, y mae agoriad ei genau i lefaru fel agoriad dorau Eden.’ 7
Profiad ysgytwol, yn enwedig i ferched ei chynulleidfaoedd, oedd gweld a chlywed y fath ffenomen. Yr oedd ‘Cranogwen yn arwres yn ein golwg er dyddiau ein mebyd’ tystiodd Annie Catherine Prichard, sef yr awdur ‘Ruth’, a anwyd yn 1858 yn Lerpwl; bu Cranogwen yno’n aml yn darlithio o 1867 ymlaen. 8 Pedair ar ddeg mlwydd oed oedd y nofelydd Gwyneth Vaughan pan glywodd hithau Cranogwen yn siarad yn gyhoeddus mewn sasiwn yng ngogledd Cymru yn 1866; yn ôl tystiolaeth ei brawd mewn ysgrif yn Y Geninen , dylanwadwyd arni’n ddwys gan y profiad. ‘Pan glywodd Gwyneth Vaughan y ddynes unigryw, garismataidd hon, yn annerch cynulleidfaoedd ar adeg pan ystyriwyd y fath hyfdra fel nodwedd annerbynio