127
pages
Welsh
Ebooks
2020
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe et accède à tout notre catalogue !
Découvre YouScribe et accède à tout notre catalogue !
127
pages
Welsh
Ebooks
2020
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
01 mars 2020
Nombre de lectures
2
EAN13
9781786835345
Langue
Welsh
Cyflwynir yma holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’I alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a chyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad i astudiaethau Paulaidd.
D IWINYDDIAETH P AUL
Diwinyddiaeth Paul
Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig
gan
John Tudno Williams
Hawlfraint © John Tudno Williams, 2020
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-532-1
e-ISBN 978-1-78683-534-5
Datganwyd gan John Tudno Williams ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Cyflwynir y gyfrol hon i Ina ac i Haf a Tomos Gwyn a’u teuluoedd, gan ddiolch am eu cariad a’u cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.
C YNNWYS
Rhagarweiniad
Byrfoddau
1 Paul ac Iesu
2 Bywyd Cynnar yr Apostol Paul a’i Gefndir Meddyliol
3 Tröedigaeth neu Alwad?
4 Paul a’r Gyfraith
5 Soterioleg Paul
6 Cristoleg Paul
7 Anthropoleg Paul a’r Ysbryd yn Llythyrau Paul
8 Dysgeidiaeth Foesol Paul
9 Yr Eglwys yn Paul
10 Eschatoleg Paul
11 Y Llythyrau Diweddar a’r Epistolau Bugeiliol
Llyfryddiaeth
R HAGARWEINIAD
Daeth y Ddarlith Davies i fodolaeth yn 1894 pan gyfrannodd Thomas Davies o Bootle swm o arian er cof am ei dad, David Davies, er mwyn sefydlu darlith i’w thraddodi’n flynyddol gan weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ei Chymanfa Gyffredinol. Cefais innau’r fraint o gael fy ngwahodd i draddodi’r Ddarlith Davies yn 1993 yn y Gymanfa a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Ngholeg Westhill, Birmingham, a hynny wedi bron i ganrif o’r darlithoedd hyn. Roeddwn yn ymwybodol iawn o fod mewn olyniaeth anrhydeddus, a charwn ychwanegu mai dyma’r ail dro, hyd y gwn i, i fab ddilyn ei dad yn yr olyniaeth honno, gan i fy nhad draddodi ei ddarlith union ddeng mlynedd ynghynt. Y tro cyntaf i hynny ddigwydd oedd pan fu i’r Parchedig Huw Wynne Griffith draddodi darlith 1978 wedi i’w dad, y Parchedig G. Wynne Griffith, wneud yn 1942.
Yn sicr, nid dyma’r tro cyntaf i’r Apostol Paul fod yn destun y Ddarlith Davies. Ym Mhorthmadog yn 1921 traddododd John Williams arall, y digymar bregethwr o Frynsiencyn, ddarlith yn dwyn y teitl ‘Hanes yr Apostol Paul ac Athrawiaeth yr Iawn’. Dr Thomas Charles Williams a lywyddai ar yr achlysur hwnnw, ac roedd David Lloyd George yn eistedd yn y sêt fawr. 1 Cyhoeddwyd crynswth y ddarlith wedi’i golygu gan William Morris, a chyda rhagair gan ei gofiannydd, R. R. Hughes, yn 1955.
Roedd gan Dr John Williams rywbeth i’w ddweud o dan ryw bedwar pennawd: cefndir meddyliol yr apostol; ei dröedigaeth; dysgeidiaeth Paul a’r lesu; ac athrawiaeth yr iawn. Yn fy narlith wreiddiol, ni ddilynais yr union drywydd ag ef; yn hytrach, ceisiais daflu cipdrem ar rai o’r prif lwybrau a ddilynwyd yn ystod y deng mlynedd a thrigain ers traddodi darlith Dr John Williams gan ysgolheigion o Gymry, ymhlith eraill, ond yn ddiau byddaf yn y gyfrol hon yn cyffwrdd â rhai o’r materion a nododd ef.
Teitl y Ddarlith Davies a draddodais oedd ‘Paul a’i Ddehonglwyr Cymreig’, er na chyfyngais fy sylwadau ynddi i’w cyfraniadau hwy yn unig. Felly hefyd y gwneuthum yn y gyfrol hon sy’n ffrwyth astudiaeth dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain bellach o’r maes eang, toreithiog hwn, sef Diwinyddiaeth Paul. Ceisiais ynddi dynnu sylw at y cyfraniadau sylweddol i’r maes gan ddau Gymro’n arbennig, sef C. H. Dodd o Wrecsam a’i ddisgybl W. D. Davies o Lanaman. Cyfeiriais yn gyson hefyd at gyfraniadau nifer o Gymry eraill, yn ogystal ag ysgolheigion, heb fod yn Gymry, a fu’n llafurio yng Nghymru ei hun. Yn y llyfryddiaeth nodais eu henwau â’r arwydd*. Gwelir imi ddefnyddio yn yr ôl-nodiadau ddull sy’n cyfeirio at enw’r awdur a dyddiad y cyhoeddiad yn unig. Yna rhoddir manylion llawn y cyhoeddiadau hyn yn y llyfryddiaeth ar derfyn y gyfrol hon. Gelwir hyn yn ‘ddull Harvard’ o gyfeirio at ffynonellau.
Dechreuais ymddiddori yn nysgeidiaeth yr apostol pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (1957–60), a mynychais ddarlithoedd fy nhiwtor, Denys Whiteley, ar y pwnc: darlithoedd a gyhoeddwyd mewn cyfrol a ymddangosodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn y cyfnod hwnnw hefyd fe’m cyfareddwyd gan gyfrol arloesol W. D. Davies, Paul and Rabbinic Judaism , a phorais lawer ynddi wrth ymbaratoi ar gyfer fy arholiadau gradd. Yn ystod y degawdau canlynol ymddangosodd y pum cyfrol swmpus a ganlyn ar ddysgeidiaeth Paul: Paul and Palestinian Judaism , gan E. P. Sanders; The Theology of Paul the Apostle , gan J. D. G. Dunn; The Deliverance of God , gan D. A. Campbell; Paul and the Faithfulness of God , gan N. T. Wright; a Paul and the Gift , gan J. M. G. Barclay. Ceisiais roi sylw dyladwy iddynt yn y gyfrol hon, ochr yn ochr â nifer fawr o gyfraniadau ysgolheigaidd eraill. Ond gwn mai braidd gyffwrdd â’r maes enfawr hwn a wneuthum, ac wrth imi ollwng y gyfrol hon o’m dwylo rwy’n ymwybodol o’i gwendidau ac o’m methiant i wneud cyfiawnder â phob rhan o’r maes. Fy nghyfieithiadau i o’r Saesneg a’r Almaeneg a geir yn y gyfrol oni nodir yn wahanol.
Roedd hi’n anochel, felly, fy mod yn rhoi llawer o sylw i farnau gwahanol ysgolheigion ar yr agweddau ar ddiwinyddiaeth yr apostol y dewisais eu trafod yma, ond, ar yr un pryd, ceisiais dynnu sylw’n gyson at eiriau’r prif wrthrych ei hun. Gan fod yr holl gyfeiriadau hyn at ei waith wedi eu nodi yn y gyfrol, credaf mai buddiol fyddai i’w darllenwyr fod â chopi o’r Testament Newydd wrth eu hymyl yn wastad wrth ei phori. Wedi’r cyfan, yr hyn a ysgrifennodd yr apostol ei hun yw’r allwedd i ddeall ei ddysgeidiaeth, yn hytrach na’r hyn a ddywed eraill amdano. Pwysais yn bennaf ar gynnwys y llythyrau y cytuna’r rhan fwyaf o ysgolheigion cyfoes mai ef oedd eu hawdur, sef Rhufeiniaid, 1 a 2 Corinthiaid, Galatiaid, Philipiaid, 1 a 2 Thesaloniaid, a Philemon, ond defnyddiais Effesiaid a Colosiaid yn ogystal, er bod llawer o ysgolheigion yn amau eu dilysrwydd. Gan eu bod ill dau yn cynnwys deunydd sy’n awgrymu datblygiad mewn rhai agweddau ar athrawiaeth yr apostol, neilltuais bennod ar derfyn y gyfrol i drafod y rheiny. Nid wyf, fodd bynnag, yn credu mai ef oedd awdur y rhan fwyaf o gynnwys yr Epistolau Bugeiliol, sef 1 a 2 Timotheus a Titus, ac felly ni wneuthum ddefnydd ohonynt yng nghorff y gyfrol; yn hytrach dewisais drafod rhai agweddau ar eu cyfraniad yn y bennod olaf.
Rwyf yn hynod ddiolchgar i Fwrdd y Ddarlith Davies am y nawdd hael tuag at gyhoeddi’r gyfrol hon, a bu’r aelodau o dan arweiniad y cadeirydd, Dr D. Huw Owen, yn arbennig o gefnogol i’r holl fenter. Cydnabyddaf hefyd barodrwydd Gwasg Prifysgol Cymru i’w chyhoeddi o dan gyfarwyddid medrus Dr Llion Wigley. Gwerthfawrogaf hefyd waith trylwyr Leah Jenkins yn golygu’r gyfrol a chyfraniad Dr Dafydd Jones yn llywio’r gwaith drwy’r wasg.
John Tudno Williams
Gorffennaf 2019
B YRFODDAU
AB
Anchor Bible.
ABD
Anchor Bible Dictionary . Gol. D. N. Freedman (chwe chyfrol). New York, NY: Doubleday, 1992.
arg. diwyg.
argraffiad diwygiedig.
ANRW
Aufstieg und Niedergang der römischen Welt: Geschichte und Kultur Roms im Spiegel der neueren Forschung . Goln H. Temporini a W. Haase. Berlin: de Gruyter. 1972–.
ANTC
Abingdon New Testament Commentaries.
AV
Authorized Version.
BAGD
W. Bauer, W. F. Arndt, F. W. Gingrich, ac F. W. Danker, Greek-English Lexicon of the New Testament and Other Early Christian Literature (2il arg.). Chicago, Ill.: University of Chicago Press. 1979.
BBR
Bulletin for Biblical Research.
BC
Y Beibl Cysegr-Lân, sef yr Hen Destament a’r Newydd. Llundain: Y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor. 1955.
BCN
Y Beibl Cymraeg Newydd (arg. diwyg.). Cymdeithas y Beibl. 2004.
BFCT
Beiträge zur Förderung christlicher Theologie.
Bib
Biblica.
BJRL
Bulletin of the John Rylands University Library of Manchester.
BJS
Brown Judaic Studies.
BNTC
Black’s New Testament Commentaries.
BT
The Bible Translator.
BZNW
Beihefte zur Zeitschrift für die neutestamentliche Wissenschaft.
CD
Y Testament Newydd, Argraffiad Diwygiedig. Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru. 1991.
CHJ
Cambridge History of Judaism. Goln W. D. Davies ac L. Finkelstein. Cambridge: Cambridge University Press. 1984 –.
CTJ
Calvin Theological Journal.
CTR
Criswell Theological Review.
cyf.
cyfieithiad.
DPL
Dictionary of Paul and His Letters . Goln G. F. Hawthorne, R. P. Martin a D. G. Reid. Leicester: Inter-Varsity Press. 1993.
EBib
Études Bibliques.
ExpTim
Expository Times.
HeyJ
Heythrop Journal.
HNT
Handbuch zum Neuen Testament.
HTR
Harvard Theological Review.
IBS
Irish Biblical Studies.
ICC
International Critical Commentary.
Int
Interpretation.
1QM
Sgrôl y Frwydr (Qumrân).
1QS
Rheol y Gymuned (Qumrân).
JB
The Jerusalem Bible . London: Darton, Longman & Todd. 1968.
JBL
Journal of Biblical Literature.
JSNT
Journal for the Study of the New Testament.
JSNTSup
Journal for the Study of the New Testament: Supplement Series.
JSOT
Journal for the Study of the Old Testament.
JTS
Journal of Theological Studies.
LNTS
Library of New Testament Studies.
LSTS
Library of Second Temple Studies.
LXX
Y Beibl Groeg
MNTC
Moffatt New Testament Commentary.
MOFFATT
The New Testament: A New Translation . James Moffatt. London: Hodder & Stoughton. 1913.
NAB
New American Bible. Washington, DC: The Confraternity of Christian Doctrine. 1986.
NBD
New Bible Dictionary . Goln J. D. Douglas ac N. Hillyer (2il. arg.). Leicester: Inter-Varsity Press. 1982.
NCB
New Century Bible.
NEB
New English Bible