Credoau'r Cymry , livre ebook

icon

246

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2016

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
icon

246

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2016

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dŵr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglŷn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.
1. Gosod yr Olygfa
2. Natur Ddynol – Pelagius
3. Cyfraith a Gwladwriaeth - Hywel Dda a Glyn Dŵr
4. Y Da, Y Duwiol a’r Gwleidyddol - Richard Price
5. Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth - Robert Owen
6. Heddychiaeth - Henry Richard a David Davies
7. Sosialaeth - Aneurin Bevan a Raymond Williams
8. Cenedlaetholdeb - Lady Llanover, Michael D Jones a JR Jones
9. Diweddglo
Voir icon arrow

Date de parution

15 juillet 2016

Nombre de lectures

0

EAN13

9781783168811

Langue

Welsh

Poids de l'ouvrage

2 Mo

Credoau'r Cymry
Credoau'r Cymry
Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol
Huw Lloyd Williams
Gwasg Prifysgol Cymru 2016
Hawlfraint © Huw Lloyd Williams, 2016
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig. ISBN 9781783168804eISBN 9781783168811
Datganwyd gan Huw L. Williams ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Ariennir y cyhoeddiad hwn yn rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cysodwyd yng Nghymru gan Eira Fenn Gaunt, Caerdydd
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham
I Rhiannon
Cynnwys
Diolchiadau Nodyn ar ddarllen y testun hwn Rhestr lluniau
1 Gosod yr Olygfa 2 Y Natur Ddynol: Pelagius (354–?) 3 Cyfraith a Gwladwriaeth: Hywel Dda (880–950)  ac Owain Glynd{r (1349–?) 4 Y Da, y Duwiol a’r Gwleidyddol: Richard Price  (1723–1791) 5 Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth: Robert Owen  (1771–1858) 6 Heddychiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol:  Henry Richard (1812–1888) a David Davies (1880–1944) 7 Sosialaeth: Aneurin Bevan (1896–1960) a  Raymond Williams (1921–1988) 8 Cenedlaetholdeb: Arglwyddes Llanofer,  Michael D. Jones a J. R. Jones 9 Diweddglo
Nodiadau Llyfryddiaeth Bywgraffiadau byrion Mynegai
ix xi xiii
1 13
3
1
5
8
9
5
105
133
163 193
207 211 219 225
Dîolchîadau
Hoffwn ddiolch i’r amryw bersonau sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon. Y pwysicaf wrth reswm yw’r teulu, sydd wedi fy nghefnogi ac annog o’r cychwyn cyntaf. Diolchaf yn arbennig felly i fy nhad a mam, fy mrodyr, a mwy na neb fy ngwraig, Rhiannon, sydd wedi gwrando ar fy nghwyno a’m syniadau gyda’r un amynedd, cynnig adborth a chynnal y cartref, a hyn oll wrth fagu plentyn a meithrin creadigaeth o fath arall, ei doethuriaeth. Diolchaf i Melangell am f’atgoffa’n ddyddiol bod yna bethau pwysicach a mwy anhygoel i’w gwerthfawrogi yn y bywyd yma nag athroniaeth, hyd yn oed. O ran fy ngwaith rhaid imi ddiolch yn gyntaf i aelodau Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru am eu hym drechion diflino wrth gynnal y pwnc yn y Gymraeg, a hefyd am sicrhau’r swydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol rwyf yn ddeiliad ohoni. Er mawr dristwch inni gyd, collasom ein Llywydd am Oes, Merêd, y flwyddyn ddiwethaf. Gallaf ond gobeithio fod yna rhywbeth yn y gyfrol hon byddai wedi’i blesio. Diolchaf yn ogystal i Walford Gealy – fy athro athroniaeth cyntaf, trwy gyd ddigwyddiad – am ei annogaeth a’i gymorth a sgyrsiau heb eu hail am athroniaeth yng Nghymru. Yn fwy na neb rhaid imi gyd nabod fy nyled i Gwynn Matthews, cyfaill athronyddol o’r radd flaenaf. O ran y Coleg, sydd wedi bod mor hael yn cefnogi’r cyhoeddiad yma ac sydd yn ariannu a chynnal fy swydd, diolchaf i Dr Dylan Phillips sydd wedi bod yn gefn imi gan ddangos cryn amynedd yn ogystal. Hoffwn ddiolch i’r Athro Damian Walford Davies, pennaeth fy adran ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi
Voir icon more
Alternate Text