287
pages
Welsh
Ebooks
2021
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
287
pages
Welsh
Ebooks
2021
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 juin 2021
Nombre de lectures
1
EAN13
9781786836441
Langue
Welsh
Mae’r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae’n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i’r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae’n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy’n arwain at y cwestiwn, ‘Pwy yw’r Cymry?’
Yn ogystal â’r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a’r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr.
O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai’r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain.
Publié par
Date de parution
15 juin 2021
Nombre de lectures
1
EAN13
9781786836441
Langue
Welsh
H ANES C YMRY
Hanes Cymry
Lleiafrifoedd Ethnig yn y Gwareiddiad Cymraeg
Simon Brooks
Cyflwynedig i
ail genhedlaeth Gymreig Llundain, ac i griw’r wythdegau yn enwedig
Ond beth yw’r Bruttaniaid mwy nag eraill?
Morgan Llwyd
Hawlfraint © Simon Brooks, 2021
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN: 9781786836427
eISBN: 9781786836441
Datganwyd gan Simon Brooks ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Prifysgol Abertawe ar gyfer y cyhoeddiad hwn.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Y clawr: Llun Geoff Charles o Freddie Grant, yr ifaciwî o Lerpwl, wrth gartref yr hynafiaethydd Cybi ar Ddydd Gŵyl Dewi 1948. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales. Dyluniad y clawr: Olwen Fowler
C YNNWYS
Rhestr luniau
Rhagair
Diolchiadau
Cyflwyniad
1 Beth sy’n bod ar amlddiwylliannedd Eingl-Americanaidd unigolyddol?
2 Hanes Cymry – hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg
3 Disgrifio amlddiwylliannedd Cymraeg
4 Hybridedd lleiafrifol
5 Pwy yw’r Cymry?
I. Pa mor amlethnig yw’r Fro Gymraeg wledig? Gweler Llŷn ac Eifionydd
II. Ystyr y gair ‘Cymry’: llenorion Cymraeg o gefndir ethnig lleiafrifol
III. Y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr: lleiafrif heb ei gydnabod
6 Mae ’na Wyddel ac Iddew yn y dre – dinasyddiaeth Gymraeg a thair ideoleg: rhyddfrydiaeth, sosialaeth a chenedlaetholdeb
7 Ydy’r Cymry’n ddu? – trefedigaethwyr a’r trefedigaethedig
I. Caethwasiaeth, trefedigaethedd a’r genhadaeth Gymreig
II. Mathau o orthrwm
8 Y Sipsiwn Cymreig – un o ddwy bobl frodorol y Fro Gymraeg
Diweddglo – brodorion amlethnig Ynys Prydain
Nodiadau
Llyfryddiaeth Ddethol
R HESTR L UNIAU
Lluniau gan Geoff Charles, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
1 Sioni Winwns ym Mhorthmadog (1958).
2 Vivienne Hughes a Doris Chung, Caernarfon (1969).
3 Gwyddelod yn dathlu gŵyl San Padrig ym Mlaenau Ffestiniog (1960).
4 Freddie Grant, seren ffilm Yr Etifeddiaeth , yn oedolyn yn Lerpwl (1961).
5 Hywel Wood yn paratoi cyn clocsio (1958).
R HAGAIR
Yn y llyfr hwn, dwi’n mynd yn ôl i ddyddiau maboed. Wedi fy ngeni yn Isleworth ger Hounslow yn Llundain, a’m magu yno ac yn Walton yn ymyl Kingston, rwy’n Gymro yn yr ystyr a arddelid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid ysywaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwy’n Gymraeg, ond nid wyf o Gymru. Aelod o grŵp iaith ydw i, ond am fod hwnnw y tu allan i Gymru, daeth yn lleiafrif ethnig hefyd, ac ymwybyddiaeth, a phrofiad, o hynny sydd wedi llywio cwrs fy mywyd.
Mae’n anodd datgysylltu gwaith, gan gynnwys gwaith academaidd, oddi wrth ei awdur. Rydym oll yn meddu ar oddrycholdeb, ‘subjectivity’, y nodweddion arnom sydd i raddau helaeth yn llunio amodau ein golwg ar y byd. Yn fy achos i, magwraeth mewn teulu Cymreig ar aelwyd ddwyieithog yn Lloegr, a bywyd maestrefi Middlesex, gogledd eithaf Surrey a de-orllewin Llundain sy’n ffurfiannol. Ynghlwm wrth hynny, y cysylltiadau llac rhwng unigolion, teuluoedd a sefydliadau Cymreig Llundain a’r ardal o’i chwmpas, a’m sylweddoliad yn y chweched dosbarth nad oeddwn yn ‘Welsh’ o gwbl, fel yr oeddwn wedi tybio ar hyd fy oes, ond yn perthyn yn hytrach i endid lawer mwy anniffiniedig, sef strata ethnig grŵp Cymreig lleiafrifol ac anghydnabyddedig Llundain a de-ddwyrain Lloegr.
Wrth nesáu at yr hanner cant, rwy’n ‘gweld yn lled glir’ fel Gwenallt fod profiadau plentyndod yn bwysig. Fy rhieni a’m chwiorydd a dwy iaith y teulu. Fy nghefndryd Cymreig yn Berkshire, fy wncwl a modryb Cymraeg yn swydd Gaint, teuluoedd Eingl-Gymreig Middlesex, Cymry dosbarth gweithiol wedi mynd yn ddosbarth canol. Ac ar ôl dod yn ddigon hen i grwydro Llundain: gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith, diwylliant ieuenctid Cymraeg Llundain, festrïoedd capeli a chymdeithasau llenyddol, Canolfan Cymry Llundain. Fy ffrindiau, llawer ohonynt o Gymru a rhai o’r ail genhedlaeth. Roeddwn yn adnabod yr ail genhedlaeth fel arweinwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaith. Radicaliaid oeddent hwy o faestrefi pellennig cyrion Llundain. Ond roedd Dafydd, fy ffrind gorau o’r ail genhedlaeth, yn Gymro o Lerpwl.
Dim ond yn lled ddiweddar y bu i mi sylweddoli fod dylanwad hyn ar fy ngwaith academaidd mor drwm. Daw cyfleoedd eraill, gobeithio, i mi ysgrifennu am gymdeithas Gymraeg Llundain y 1980au. Yma, rwyf am gyfyngu fy sylwadau i’r cylch deallusol, a sut mae magwraeth wedi siapio fy ymateb i’r pwnc sy’n ganolog i’r llyfr hwn. Mae pwysigrwydd ethnigrwydd fel cysyniad yn fy ngwaith yn deillio o’r ffaith imi gael fy magu’n aelod o grŵp lleiafrifol yr oedd ei ethnigrwydd yn cael ei ddiystyru. Hynny yw, cefais fy magu y tu allan i Gymru yn aelod o gymuned na sylwai neb arni, ac o ganlyniad nid oedd cefnogaeth y wladwriaeth ar gael. Nid wyf am wneud cymhariaeth uniongyrchol â’r grwpiau yng Nghymru a drafodir yn y llyfr hwn – mae pob lleiafrif yn wahanol – ond roedd rhwydwaith ac ymwybyddiaeth lleiafrifoedd ethnig yn greiddiol i’m hieuenctid.
Mae fy amheuaeth ddofn o’r math o wleidyddiaeth sifig sy’n gwadu ethnigrwydd yn deillio o hyn. Nid oedd ganddi ddim diddordeb ynom ni a oedd yn lleiafrif Cymreig yn Lloegr. Pan symudais i Gymru, sylweddolais nad oedd ganddi fawr o ddiddordeb mewn cymunedau Cymraeg ychwaith. Problem y genedl sifig yn ei pherthynas â lleiafrifoedd yw, nid cymaint â’i bod yn camwahaniaethu yn eu herbyn, ond ei bod mewn gwladwriaethau rhyddfrydol yn haeru nad ydynt hwy yno. Cefais wersi chwerw ar hynny yn Llundain.
Yn fy arddegau hwyr, roeddwn yn ymgyrchydd lleiafrifoedd ethnig. Roedd cysylltiadau’r gymuned Gymreig â’r gymuned Wyddelig yn neilltuol agos, yn enwedig ym maes addysg. Byddwn yn mynychu cyfarfodydd o’r London Association for Celtic Education (LACE) a oedd yn cael ei arwain gan ail genhedlaeth Wyddelig y ddinas. Roedd y Cymry’n debyg i’r Gwyddelod am ein bod yn ddau leiafrif ‘gwyn’ o ‘ynysoedd Prydain’ ac yn wynebu rhai o’r un problemau. Y pennaf ohonynt oedd amheuaeth a oeddem yn lleiafrifoedd ethnig o gwbl. O ganlyniad, roeddwn yn bleidiol yn gyntaf i gydnabyddiaeth i’r lleiafrif Cymreig; ochr-yn-ochr â lleiafrifoedd eraill wrth gwrs. Nid oedd sefydliad amlddiwylliannol Llundain yn awyddus iawn fod hyn yn digwydd. Rwy’n cofio cael cerydd gan Saesneg adain chwith mewn cyfarfod a drefnwyd i gefnogi lleiafrifoedd ethnig. Nid oeddwn, meddai hi, yn ddim ond Sais gwyn.
Ar y pryd, bu i agweddau fel hyn, a oedd yn gyffredin iawn ac yn cael eu hadrodd yn aml (gweler nofel Ifor ap Glyn am Gymry Llundain, Tra Bo Dau , sy’n hynod gywir yn ei disgrifiad o’r pwysau seicolegol ar yr ail genhedlaeth Gymraeg), beri loes aruthrol i mi. Pe na bawn yn Gymro, sut gallwn i barhau’n aelod o’r gymuned Gymreig? Os nad oedd y gymuned Gymreig yn lleiafrif ethnig dilys, sut gallai hi gael y gefnogaeth angenrheidiol i gynnal ein diwylliant? Nid oedd yn hawdd i hogyn yn ei arddegau ddelio gyda theimladau fel hyn. Yn araf deg, dechreuais ddeall fy mod i’n perthyn i grŵp nad oedd y byd Saesneg am ei gydnabod. Mi ddatrysais y pos drwy symud i Gymru ond mae’r diffyg cydnabyddiaeth wedi fy mhoeni ar hyd fy oes.
Yng Nghymru, mae fy mywyd yn wahanol iawn i’r hyn ydoedd pan oeddwn yn blentyn yng nghyffiniau Llundain, a gwn fod llawer yn methu deall pam fy mod yn teimlo mor eithriadol o gryf fy mod yn aelod o leiafrif, a finnau’n Gymro gwyn yng Nghymru. Rwy’n byw mewn cymuned Gymraeg, ac yn rhan integreiddiedig ohoni, yn gwasanaethu ar ei chyngor tref ac yn rhan o’i bywyd sifig. Go brin fy mod yn aelod o leiafrif ethnig , meddan nhw, ac maen nhw’n iawn: yng Nghymru , dydw i ddim. Dyn gwyn, heterorywiol, Cymreig, canol oed a dosbarth canol ydw i, ac yn ymgorfforiad gan hynny o safbwyntiau mwyaf normadol a phwerus y gymdeithas.
Ond yn fy mywyd mewnol, preifat, ac yn fy ymateb seicolegol, emosiynol a syniadol i’r drafodaeth gyfoes am wleidyddiaeth, hunaniaeth ac ethnigrwydd, ni fedraf ddianc rhag profiadau ffurfiannol. Rwy’n aelod bore oes y diaspora, yn hanu o leiafrif, yn meddu ar ymdeimlad o wahanrwydd ethnig oherwydd hynny, yn fab ymfudwyr, yn perthyn i ail genhedlaeth, yn medru iaith na dderbyniais i addysg ynddi.
Mae’n bwysig wrth gwrs i mi nodi nad oeddwn yn perthyn i leiafrif o ran hil yn Llundain. Rwy’n ddyn gwyn. Nid yr un oedd profiadau trigolion Cymreig gwyn y ddinas a phrofiadau’r boblogaeth ddu. Ni wynebais i hiliaeth ar sail lliw croen erioed. Nid fy lle i fel Cymro gwyn o Loegr yw llefaru ar ran Cymry du, nac ar ran unrhyw leiafrif ethnig nad wyf yn aelod ohono.
Er hynny, fy mhrofiadau yn Llundain a’r cylch sy’n ffurfiannol. Maent yn eglurhau i raddau helaeth fy mrwdfrydedd dros y Gymraeg, a hefyd dros gymunedau Cymraeg fel llefydd diogel. Maent yn esbonio fy niddordeb yn hanes lleiafrifoedd ethnig, a strwythur a hanes rhagfarnau gwrth-Gymraeg, a chyswllt y gymuned Gymraeg â’r Arall, a’r Arall gyda hi.
Nid oedd fy mhrofiadau yn Llundain yn rhai dymunol iawn. Teimlwn waradwydd, dicter a chywilydd yn ystod fy mhlentyndod oherwydd fy nghefndir ethnig. ‘We could not face ridicule from fools, for we were fools ourselves had we but known it,’ meddai J. Glyn Davies, Lerpwl, am yr ail genhedlaeth Gymreig, ac yn hynny o beth mae’n dweud calon y gwir.
Nid oes modd newid y pethau hyn rŵan, ond rhaid ceisio ymateb yn gadarnhaol, ac ymdrech i wneud hynny, yn rhannol, yw’r gyfrol h