Comparative Stylistics of Welsh and English , livre ebook

icon

165

pages

icon

English

icon

Ebooks

2018

icon jeton

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
icon

165

pages

icon

English

icon

Ebooks

2018

icon jeton

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus


The comparative analysis of Welsh and English found in this book is based on a translation corpus consisting of just over thirty novels and autobiographies from the late nineteenth century up to the early twenty-first century. Many of the original Welsh texts contain stylistic features which, in a context of intense bilingualism with English, benefit from the deliberate discussion and analysis in this volume. However, the work is intentionally descriptive rather than prescriptive, laying out patterns that are observed in the corpus, and making them available to Welsh writers and translators to adopt if or as required. As similarly the classic work in the field by Vinay and Darbelnet, this book examines its topics through the lens of translation techniques such as transposition, modulation and adaptation.



Acknowledgements
Rhagair/Preface
Chapter I: Comparative Stylistics and Translation Techniques
Chapter II: Nouns and Pronouns
Chapter III: Prepositions
Chapter IV: Welsh Possessive Constructions
Chapter V: Issues in the Verb Phrase: Tense/Mood/Aspect and Modality
Chapter VI: Phrasal Verbs
Chapter VII: Cael and Get
Chapter VIII: Adjectives and Adverbs
Chapter IX: Lexical Issues: Word formation and collocations
Chapter X: Welsh Verbless Clauses and Verb-noun Clauses
Chapter XI: Information Structure: Topics and Focus
Bibliography
Voir icon arrow

Date de parution

15 juillet 2018

Nombre de lectures

1

EAN13

9781786832573

Langue

English

Poids de l'ouvrage

8 Mo

Comparative Stylistics of Welsh and English
Arddulleg y Gymraeg
Comparative Stylistics of Welsh and English
Arddulleg y Gymraeg

KEVIN J. ROTTET AND STEVE MORRIS -->

UNIVERSITY OF WALES PRESS CARDIFF
© Kevin J. Rottet and Steve Morris, 2018
All rights reserved. No part of this book may be reproduced in any material form (including photocopying or storing it in any medium by electronic means and whether or not transiently or incidentally to some other use of this publication) without the written permission of the copyright owner. Applications for the copyright owner s written permission to reproduce any part of this publication should be addressed to the University of Wales Press, 10 Columbus Walk, Brigantine Place, Cardiff CF10 4UP.
www.uwp.co.uk
British Library Cataloguing-in-Publication Data
A catalogue record for this book is available from the British Library.
ISBN: 978-1-78683-254-2 (hardback)
978-1-78683-255-9 (paperback)
e-ISBN: 978-1-78683-257-3
The rights of Kevin J. Rottet and Steve Morris to be identified as authors of this work have been asserted in accordance with sections 77 and 79 of the Copyright, Designs and Patents Act 1988.
The University of Wales Press acknowledges the financial support of Swansea University and Indiana University.
The publisher has no responsibility for the persistence or accuracy of URLs for any external or third-party internet websites referred to in this book, and does not guarantee that any content on such websites is, or will remain, accurate or appropriate.
Cover design: www.hayesdesign.co.uk
Contents

Rhagair / Preface
Acknowledgements
1 Comparative Stylistics and Translation Techniques
2 Nouns and Pronouns
3 Prepositions
4 Welsh possessive constructions
5 Issues in the Verb Phrase: Tense/Mood/Aspect and Modality
6 Phrasal Verbs
7 Cael and Get
8 Adjectives and Adverbs
9 Lexical Issues: Word formation and collocations
10 Welsh Verbless Clauses and Verb-noun Clauses
11 Information structure: Topic and focus
Notes
Bibliography
Rhagair / Preface

Daeth y syniad ar gyfer y llyfr hwn yn wreiddiol mewn cwrs a ddysgwyd gan Kevin Rottet ym Mhrifysgol Indiana ar arddulleg gymharol y Ffrangeg a r Saesneg. Ysbrydolwyd cynnwys y cwrs gan lyfr arloesol Vinay a Darbelnet, Comparative Stylistics of French and English . Techneg y cwrs oedd cymharu strwythur y ddwy iaith trwy gorpws o gyfieithiadau a fedrai ddatgelu nodweddion sy n debyg neu n wahanol - nodweddion y byddai dosbarthiadau iaith traddodiadol yn eu crybwyll yn unig neu yn eu hanwybyddu n gyfan gwbl. Gwnaeth y dechneg hon gryn argraff, ac yr oedd y syniad o ymestyn y math yma o gymharu i r Gymraeg a r Saesneg yn eithaf naturiol. Roedd Kevin Rottet a Steve Morris wedi cyfarfod flynyddoedd ynghynt mewn cwrs Cymraeg dwys yng Ngogledd America dan nawdd Cymdeithas Madog (y Sefydliad Astudiaethau Cymreig yng Ngogledd America), a pheth digon naturiol oedd i r bartneriaeth gydweithredol bresennol ddilyn yn sgil hynny.
Beth yw ystyr arddulleg i ni yma? Fel yng ngwaith clasurol Vinay a Darbelnet, cyfeiria r term at nodweddion ieithyddol sydd ar gael fel opsiynau, nodweddion y gall yr ysgrifennwr neu r cyfieithydd ddewis o u plith â rhyddid. Gwahaniaethir rhwng cyfyngiadau neu ataliadau , y nodweddion hynny mewn iaith nad oes dewis yn perthyn iddynt, ac opsiynau , y nodweddion hynny y mae modd eu dethol (neu beidio) gan ddibynnu ar yr hyn sydd orau gan yr ysgrifennwr, cywair y testun ac ati. Fel unrhyw iaith fyw, yn ddigon amlwg, mae r Gymraeg wedi wynebu cryn newid yn ystod y canrifoedd diwethaf; ond yn achos y Gymraeg, yn sicr, mae cyflymdra r newidiadau hyn wedi cynyddu yn ystod yr ugeinfed a r unfed ganrif ar hugain wrth i niferoedd cynyddol o siaradwyr Cymraeg ddatblygu eu meistrolaeth o r Saesneg a byw mwy o u bywydau trwy gyfrwng y ddwy iaith. Nid yw n syndod darganfod mewn sefyllfa o r fath, felly, fod adnoddau arddulliadol yr iaith leiafrifol yn wynebu llawer o heriau dros amser. Un o amcanion y llyfr hwn yw dal llawer o r amrywiaeth arddulliadol yma tra bo r iaith yn parhau n gynhyrchiol ac yn egnïol. Mae r llyfr yma n ddisgrifiadol o fwriad, yn hytrach na bod yn argymhellol; hynny yw, ceisiwn osod patrymau a welir yng nghorpws y testunau, a threfnu eu bod ar gael i ysgrifenwyr a chyfieithwyr Cymraeg a all eu haddasu neu beidio fel y gwelant yn dda a chan ddibynnu ar anghenion eu testunau.
Seilir y dadansoddi cymharol o r Gymraeg a r Saesneg a geir yn y llyfr hwn ar gorpws o gyfieithiadau sy n cynnwys ychydig dros ddeg ar hugain o nofelau a hunangofiannau. Cyhoeddwyd tri ar ddeg o r gweithiau yn Saesneg, gyda r cyfieithiadau Cymraeg yn eu dilyn. 1 O fynd i r cyfeiriad arall, mae r corpws yn cynnwys pedwar gwaith ar bymtheg yn y Gymraeg sydd â chyfieithiadau Saesneg wedi u cyhoeddi. Yn ogystal â r gweithiau hyn, defnyddiwyd dau waith ar hugain yn y Gymraeg heb gyfieithiadau, er mwyn rhoi enghreifftiau ychwanegol o strwythurau. Cynhyrchwyd yr holl gyfieithiadau yn yr ugeinfed neu r unfed ganrif ar hugain - mae hynny n wir am y rhan fwyaf o r fersiynau gwreiddiol, gyda rhai eithriadau, fel gwaith Lewis Carroll o r 1860au, Daniel Owen o r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac un stori fer gan Syr Arthur Conan Doyle. Yr ydym wedi dewis cyfieithiadau sy n cynnwys testunau o arddulliau eithaf llenyddol (fel Monica gan Saunders Lewis) i arddull lawer mwy sgyrsiol a chyfoes (fel Caersaint gan Angharad Price, neu nofelau Lladd Duw a Crawia Dewi Prysor). Mae r nofelau yn cynnwys rhai storïau i blant, fel gwaith Roald Dahl neu lyfr cyntaf cyfres Harri Potter, nofelau ditectif (gan gynnwys gwaith gan P. D. James ac Ian Rankin), a ffuglen glasurol Gymraeg gan Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes a Kate Roberts. Mae r hunangofiannau n cynnwys rhai Hugh Evans, W. J. Gruffydd, Meic Stevens, D. J. Williams, Iorwerth Peate a Dr J. Lloyd Williams. Mae rhai o r testunau n cynnwys naws ranbarthol yn fwriadol, fel hunangofiant dwy-ran Meic Stevens yn iaith y de, neu nofel glasurol Caradog Pritchard Un Nos Ola Leuad gyda i thafodiaith ogleddol gref. Pan fo modd, rhoddir enghreifftiau o r strwythurau a drafodir o fwy nag un testun, gan mai r hyn sydd o ddiddordeb yw cyfoeth yr opsiynau arddulliadol sydd ar gael i ysgrifenwyr a chyfieithwyr Cymraeg yn hytrach na hynodweddau arddulliadol yr ysgrifennwr unigol.
Bwriedir y llyfr hwn ar gyfer tri math o ddarllenydd:
1. myfyrwyr ar fodiwlau cyfieithu, neu ysgolheigion annibynnol sy n gweithio ar gyfieithu, rhwng y Saesneg a r Gymraeg;
2. myfyrwyr sy n astudio r Gymraeg ar lefelau uwch;
3. ieithyddion neu fyfyrwyr ieithyddiaeth sydd â diddordeb yn strwythur yr iaith Gymraeg.
Er bod eraill wedi ysgrifennu am gyfieithu rhwng y Gymraeg a r Saesneg, mae r dull a ddefnyddir yn y llyfr hwn - sef astudio patrymau sy n codi o gorpws o gyfieithiadau fel dull o daflu goleuni ar strwythur y ddwy iaith ac ar fethodoleg cyfieithu - yn newydd yng nghyd-destun y Gymraeg.
Mae r ddau awdur yn dod â u harbenigeddau penodol i r dasg. Un o brif feysydd arbenigedd Kevin J. Rottet yw cyswllt ieithoedd gyda diddordeb penodol yn effeithiau strwythurol ieithoedd mewn cysylltiad â i gilydd. O ganlyniad, ef yw prif awdur penodau 1, 4-7 a 10-11, sy n ymdrin yn bennaf â materion strwythurol ar lefel yr ymadrodd (y bennod ar Gystrawennau Meddiannol y Gymraeg) neu r frawddeg neu ddisgwrs (y bennod ar Adeiledd Gwybodaeth). Mae gan Steve Morris yrfa hir mewn addysgu r Gymraeg fel ail iaith i oedolion, ac mae wedi gweithio n helaeth ar eirfa r Gymraeg. Mae n gydymchwilydd ar brosiect CorCenCC - Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes , ac ef yw prif awdur penodau 2, 3, 8 a 9 (gan gynnwys y penodau ar Enwau a Rhagenwau, ac Ansoddeiriau ac Adferfau).
Hoffem ddiolch i Sefydliad Astudiaethau Uwch (IAS) Prifysgol Indiana a Phrifysgol Abertawe am eu cefnogaeth ariannol i r prosiect hwn - heb hynny, ni fyddai wedi ei wireddu. Hefyd, hoffem ddiolch i Christopher Robbins, yr oedd ei bedair semestr yn astudio r Gymraeg ym Mhrifysgol Indiana wedi ei wneud yn arbennig o gymwys i fwrw golwg myfyriwr sy n astudio r Gymraeg dros ddrafftiau rhai o r penodau a chynnig adborth, ynghyd â r grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a ymrestrodd ar gwrs Kevin ar arddulleg gymharol y Ffrangeg a r Saesneg ym Mhrifysgol Indiana. Yr oedd eu diddordeb byw wedi sicrhau bod perthnasedd y pwnc i ieithoedd eraill fel y Gymraeg yn fwy amlwg byth. Ar ben hynny, yr ydym yn ddiolchgar dros ben i Llion Wigley a holl staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu harweiniad, eu cyngor a u cefnogaeth.
Kevin J. Rottet, Prifysgol Indiana
Steve Morris, Prifysgol Abertawe
The idea for this book was born in a course taught by Kevin Rottet at Indiana University on the comparative stylistics of French and English. The content of the course was inspired by Vinay and Darbelnet s classic text of the same name. Impressed at how the technique of comparing the structure of two languages via a translation corpus was able to reveal similarities and differences that were only hinted at or were even entirely absent in traditional language classes, the idea of extending this sort of comparison to Welsh and English was quite natural. Kevin Rottet and Steve Morris had met many years earlier during an intensive Welsh course in North America sponsored by the organisation Cymdeithas Madog (The Welsh Studies Institute in North America), and so the collaborative partnership followed naturally.
What do we mean here by stylistics ? As in Vinay and Darbelnet s classic work, the term refers to linguistic features of a language that are available as options, features among which the writer or translator can freely choose. A distinction is made between constraints or servitudes , those features of a language which involve no choice, and options , those features which one can select, or not, depending on the preferences of the writer, the register of the text, etc. Manifestly, the Welsh language has been undergoing considerable changes in recent centuries, as do all

Voir icon more
Alternate Text