130
pages
Welsh
Ebooks
2016
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
130
pages
Welsh
Ebooks
2016
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
20 juillet 2016
Nombre de lectures
2
EAN13
9781783169108
Langue
Welsh
Diweddariad o’r gyfrol Cyflwyno’r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid (2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi’r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys rhai o benodau’r gyfrol wreiddiol wedi’u diweddaru, ynghyd â phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolisïau iaith cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes a’r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif a’r ganrif hon.
Publié par
Date de parution
20 juillet 2016
Nombre de lectures
2
EAN13
9781783169108
Langue
Welsh
Cyfoethogi’r Cyfathrebu
Cyfoethogi’r Cyfathrebu
Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Golygwyd gan Christine Jones a Steve Morris
Hawlfraint h Y Cyfranwyr, 2016
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN: 978-1-78316-908-5 eISBN: 978-1-78316-910-8
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i’w cydnabod yn awduron ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cynllun y clawr gan Dalen (Llyfrau) Cyf
Cynnwys
Rhagair
Cyfranwyr
1. Dulliau Dysgu a’r Dosbarth Iaith
Emyr Davies
2. Cynllunio Gwers
Chris Reynolds
3. Y Wers Gyntaf
Geraint Wilson-Price
4. Gweithgareddau Cyfathrebol
Elwyn Hughes
5. Meithrin Sgiliau Darllen
Helen Prosser
6. Meithrin Sgiliau Ysgrifennu
Phyl Brake
7. Meithrin Sgiliau Gwrando a Deall a Gwylio a Deall
Julie Brake
8. Asesu
Emyr Davies
9. Dysgu Anffurfiol
Siôn Meredith
10. E-ddysgu a rôl yr e-diwtor
Christine Jones
11. Polisi ac Ymchwil ym Maes Cymraeg i Oedolion
Steve Morris
Atodiad: Cymhwyster Cenedlaethol Dysgu-cyfunol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Mair Evans
Rhagair
Cyhoeddwyd Cyflwyno’r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid yn 2000, y gyfrol gyntaf o’i math a’r gyntaf i gynnwys nifer o benodau ymarferol, hanesyddol a methodolegol fel arf i hysbysu a chynorthwyo arfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y dosbarth a’r tu hwnt. Yn ystod y pymtheng mlynedd ers ei chyhoeddi, mae’r newidiadau yn y maes wedi bod yn sylweddol. Erbyn hyn, mae’r nifer sy’n dilyn gyrfa broffesiynol yn y maes wedi cynyddu ac mae yno ymarferwyr cydnabyddedig a phrofiadol (a nifer ohonynt yn gyfranwyr i’r gyfrol hon) sy’n gallu cynnig arweiniad a hyfforddiant i’r rhai sy’n ystyried gyrfa o’r fath. Hefyd, mae ‘Cymraeg i Oedolion’ wedi dod yn fodiwl y mae modd ei ddilyn fel rhan o’r rhaglen astudio ar gyfer gradd yn y Gymraeg mewn rhai o’n prifysgolion. Mae’r datblygiadau canologol hyn wedi digwydd yr un pryd â thuedd gyffredinol i weld y maes fel un hanfodol a chreiddiol yn ymdrechion y Llywodraeth i wrthdroi’r shifft ieithyddol a chreu mwy o siaradwyr Cymraeg.
Cododd y syniad am gyfrol i ddilyn ac i adeiladu ar gyfraniad ‘Cyflwyno’r Gymraeg’ yn nhrafodaethau’r Gweithgor Ymchwil Cymraeg i Oedolion (GYCiO). Mae’n arwyddocaol o’r berthynas agos rhwng ymchwil yn y maes a’r awydd i gyfrannu’n ymarferol at ddatblygiad Cymraeg i Oedolion mai yn y gweithgor hwn y trafodwyd y gyfrol newydd hon ac mai aelodau o GYCiO yw nifer o’r awduron. Ceir yma hefyd rai o’r penodau gwreiddiol (wedi’u diweddaru) sydd yn dal yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddynt pan gawson nhw eu cyhoeddi’n gyntaf. Penderfynwyd ei bod yn bwysig eu cynnwys yn y gyfrol hon gan eu bod yn trafod elfennau creiddiol sy’n berthnasol o hyd i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r awduron yn ymdrin â nifer o bynciau a fydd o gymorth ymarferol, uniongyrchol i ymarferwyr yn y maes, e.e. meithrin sgiliau cyfathrebu penodol, cynllunio gwers, y wers gyntaf a gweithgareddau cyfathrebol. Yn ogystal â hynny, roeddem yn awyddus i adlewyrchu blaenoriaethau a datblygiadau newydd ac am y rheswm hwnnw, ceir penodau sy’n ymwneud ag asesu, dysgu anffurfiol ac e-ddysgu. Ailwampiwyd y bennod sy’n trafod dulliau a methodolegau dysgu a cheisir gosod maes Cymraeg i Oedolion yng nghyd-destun ymchwil a pholisi iaith cyfoes. Cynhwysir atodiad byr ar y Cymhwyster Cenedlaethol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion.
Mae nifer o unigolion, a ddaeth i’r maes yn wreiddiol fel tiwtoriaid a chanddynt rôl dysgu yn bennaf, wedi ymestyn ac ehangu’r ‘pwll’ o arbenigedd sydd ar gael erbyn hyn a gwelir bod ein tiwtoriaid (llawn a rhan amser) a’n hymarferwyr yn weithgar neu’n ymwneud â chyrff dylanwadol lle mae modd iddynt elwa a dysgu oddi wrth waith ymarferwyr profiadol eraill sy’n gweithio mewn cymunedau ieithyddol amrywiol, e.e. ALTE, IATEFL a BAAL. Mae hyn yn galonogol iawn ac yn arfer y mae’n bwysig ei feithrin a’i ddatblygu yn y dyfodol fel ein bod ni ym maes Cymraeg i Oedolion yn cael budd o’r hyn a ddysgwn gan arbenigwyr byd-eang ac yn addasu ein gwybodaeth at anghenion ein maes ni. Yn yr un ffordd, os meiddiwn ddweud hynny, gall ein gwaith a’n llwyddiannau yn ein cyd-destun ieithyddol ni ein hunain hysbysu a bod o fudd i rai o’r arbenigwyr yma hefyd.
Ein nod wrth gynhyrchu’r gyfrol hon, felly, yw rhoi llawlyfr cyfoes a chyfredol i gynorthwyo tiwtoriaid a myfyrwyr Cymraeg i Oedolion wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth a hynny ar lefel ymarferol yn ogystal ag academaidd. Gwelir hi hefyd yn gyfraniad pellach i’r proffesiynoli sydd wedi bod ar waith yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf. O graffu ar y llyfryddiaethau yn y gyfrol, gwelir sut mae nifer o’r enwau mawr ym maes ieithyddiaeth gymhwysol wedi dylanwadu ar y modd rydym ni wedi datblygu ein harfer yn ein maes ni. Gellir gosod y gyfrol hon a phenodau ei hawduron ym maes ieithyddiaeth gymhwysol (yn ei ystyr ehangach) yn y Gymraeg. Ein nod yw gweld y tueddiadau a’r proffesiynoli hyn yn parhau a’n gobaith yw y bydd y gyfrol hon yn cyfrannu at wireddu’r nod hwnnw.
Yn olaf, hoffem gofnodi ein diolch a’n dyled enfawr i staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu trylwyredd, eu harweiniad a’u hamynedd.
Christine Jones a Steve Morris
Cyfranwyr
Julie Brake
Mae Julie Brake wedi gweithio ym maes dysgu Cymraeg drwy gydol ei gyrfa gan ddechrau fel tiwtor iaith ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Mae ganddi brofiad sylweddol ym maes Cymraeg i Oedolion ar ôl gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion am nifer o flynyddoedd cyn cael ei phenodi’n diwtor-drefnydd Cymraeg i Oedolion i Gyngor Sir Ceredigion. Gadawodd Geredigion i ymgymryd â swydd Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, lle mae’n gweithio ar hyn o bryd. Mae wedi ysgrifennu sawl gwerslyfr dysgu Cymraeg i ddysgwyr ar bob lefel, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn amgylcheddau dysgu rhithiol.
Phyl Brake
Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ym 1977, bu Phyl Brake yn ymchwilio i iaith lafar siaradwyr Cymraeg Plwyf Pencarreg yn Sir Gaerfyrddin, gan ennill gradd MA yn 1980. Rhwng 1977 ac 1980, bu’n gweithio i’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd gan astudio iaith lafar siaradwyr Cymraeg Cymoedd y Rhondda. Ym 1980, ymunodd ag Adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Cymru lle gweithiai o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Rhwng 1992 a 2006, bu’n gyfrifol am raglen Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Mae nawr yn cydlynu rhaglen Cymraeg i Oedolion y sefydliad hwnnw yng Ngheredigion. Dros y blynyddoedd, mae Phyl wedi cyhoeddi cyfrolau ar ddysgu Cymraeg a gloywi’r Gymraeg. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.
Emyr Davies
Dr Emyr Davies yw Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a chwblhau ei ddoethuriaeth yno, gan astudio ar gyfer Uwch Ddiploma mewn Ieithyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dulyn yn ddiweddarach. Bu’n ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, am un mlynedd ar ddeg, cyn symud i weithio i CBAC. Mae’n awdur cyrsiau ac adnoddau amrywiol, ac yn rheolwr ar brojectau niferus ar gyfer y maes. Fe yw cynrychiolydd yr arholiadau Cymraeg yn ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop), a chadeirydd pwyllgor gwaith ALTE ar hyn o bryd.
Elwyn Hughes
Ar ôl graddio mewn Ffrangeg a Ieithyddiaeth, dechreuodd Elwyn Hughes weithio fel Cynorthwy-ydd i Chris Rees yng Nghanolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, ym 1978. Symudodd i Brifysgol Bangor ym 1985 yn gyfrifol am gyrsiau Cymraeg i Oedolion y Brifysgol yn y Gogledd ac, yn ystod ei gyfnod yno, mae wedi ysgrifennu nifer o werslyfrau ar gyfer pob lefel ynghyd â chyfrolau o ganllawiau i diwtoriaid. Ef hefyd yw cadeirydd Gweithgorau Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC.
Christine Jones
Dr Christine Jones yw Deon Cynorthwyol y Gyfadran Addysg a Chymunedau a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddi ddoethuriaeth ym maes cymdeithaseg iaith ac, yn ogystal â chyhoeddi yn y maes hwn, mae’n awdur a golygydd nifer doreithiog o ddeunyddiau addysgu i ddysgwyr. Hi hefyd fu golygydd fersiwn gwreiddiol y llyfr hwn a gyhoeddwyd o dan y teitl Cyflwyno’r Gymraeg (2000). Mae Christine wedi cynllunio ac addysgu ystod eang o fodylau iaith ar bob lefel, yn cynnwys modylau ar-lein, a bu’n Arholwr Allanol y Cymhwyster Cenedlaethol i diwtoriaid rhwng 2008 a 2012 a hefyd yn aelod o’r Grŵp a luniodd yr adroddiad Codi Golygon (2013) ar ddyfodol Cymraeg i Oedolion.
Siôn Meredith
Siôn Meredith yw Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth ers 2006. Enillodd radd anrhydedd BA yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru (Bangor) yn 1987, a Thystysgrif Prifysgol Cymru ar gyfer Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn 1989. Ar gychwyn ei yrfa, rhwng 1987 ac 1993, bu’n gweithio i fudiad CYD gan sefydlu canghennau ledled Cymru a threfnu llu o weithgareddau cymdeithasol i ddod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ynghyd. Bu’n gweithio hefyd i elusen ryngwladol Tearfund, ac mae’n gwasanaethu fel pregethwr lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n darlledu eitemau Munud i Feddwl ar BBC Radio Cymru yn rheolaidd.
Steve Morris
Mae Steve Morris yn gweithio ym maes Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ers 1981. Ar ôl gweithio yn yr Adran Addysg Gydol Oes, cafodd ei benodi’n Uwch-ddarlithydd ac yn Athro Cysylltiol yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi. Yn ddiweddar, mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil yn ymwneud â’r maes, e.e. creu geirfa graidd A1/A2 gyda’r Athro Paul Meara, creu geirfa graidd B1, a Chanolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg. Mae’n gyd-ymchwilydd