Geirfâu’r Fflyd, 1632-1633 , livre ebook

icon

560

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2023

Écrit par

Publié par

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
icon

560

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2023

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i’r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau’n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu’n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi’n daclus mewn tair llawysgrif. Mae’r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a’i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a’u hoffer; dyn, ei gorff a’i afiechydon, a’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu’n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.


RHAGAIR
DELWEDDAU
BYRFODDAU
RHAGYMADRODD
1 John Jones: Bywgraffiad byr
2 Gwaith geiriadurol a geirfaol John Jones
1 Gwaith geiriadurol
2 Gwaith geirfaol
3 Peniarth 308
3 Geirfâu’r Fflyd
1 Y tair llawysgrif a’u cynnwys
2 Y drefn thematig
3 Natur a phwysigrwydd Geirfâu’r Fflyd
4 Ffynonellau
5 Y Cyfreithiau
6 Vocabularium Cornicum
4 Geiriaduron thematig
5 John Jones a’r traddodiad geiriadurol Cymraeg
6 Iaith ac orgraff
1 Iaith
2 Orgraff ei Gymraeg
3 Orgraff ei Saesneg
7 Diweddglo
DULL Y GOLYGU
Rhan I: Y Testun
Rhan II: Y Mynegai Nodiadol
RHAN I: Y TESTUN
Llyfr I: Peniarth 304
Llyfr II: Peniarth 305
Llyfr III: Peniarth 306
ATODIAD
1 Amrafaelion henwae ar lysseuoedd yn lladin a Saesnec a Chymraeg
2 Amrafel henweu i’r un llysiewyn
3 Henwae llysie yn Gymraeg ac yn Saesnec
4 Geirieu y’w doedyd wrth anifelied
5. Henwae priodol ar ychen
6 Henwae ar warthog
7 Henwae ar wyr ynymrafaelio ar yrun henw
RHAN II:MYNEGAI NODIADOL
Mynegaii EiriauYchwanegol
LLYFRYDDIAETH
Voir icon arrow

Date de parution

15 mai 2023

Nombre de lectures

1

EAN13

9781837720552

Langue

Welsh

Poids de l'ouvrage

15 Mo

GEIRFÂU’R FFLYD



Mae'r dudalen hon yn fwriadol wagGEIRFÂU’R FFLYD
(1632–1633):
Casgliad John Jones, Gellilyfdy,
o eiriau’r cartref, crefftau,
amaeth a byd natur

golygwyd gan
Ann Parry Owen




CAERDYDD
GWASG PRIFYSGOL CYMRU
2023Hawlfraint © Ann Parry Owen, 2023
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i
gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na
thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel
arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r
Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-83772-054-5
eISBN 978-1-83772-055-2
Datganwyd gan Ann Parry Owen ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur ar y
gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a
Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer
unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y
cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y
cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Llun y clawr: Peniarth 296, 109v, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Rhagair
Ar ddechrau’r 1630au, roedd yr ysgrifydd John Jones, Gellilyfdy (c.1580–
1657), yn wynebu carchariad go faith yng ngharchar y Fflyd (Fleet) yn
Llundain fel dyledwr. Mae’n bosibl nad dyma’r tro cyntaf iddo fwynhau
lletygarwch y Fflyd, a threuliasai hefyd gyfnod dan glo yng ngharchar
Llwydlo tua phymtheng mlynedd ynghynt, o bosibl am yr un rheswm. Ar
ôl dysgu ei grefft fel ysgrifwr gartref yng Ngellilyfdy pan oedd yn ifanc,
ymddengys mai mewn cyfnodau dan glo o’r fath yr ymarferai John Jones
ei grefft, o bosibl gan ei fod yn rhy brysur gyda gorchwylion eraill bywyd
pan oedd yn ddyn rhydd. Mae’n amlwg fod cyflenwad da o bapur ac inc
ganddo yn y carchar, a bod ei gyfeillion yn barod i anfon eu llawysgrifau
ato i’w copïo. Pan na fyddai deunydd copïo ganddo, yn enwedig ar
ddechrau cyfnodau o garchariad, byddai’n parhau â’r gwaith geiriadurol a
geirfaol yr oedd wedi cychwyn arno’n gynharach yn y ganrif, gan
ymgynghori â’r llawysgrifau a gludai gydag ef mewn cist a bagiau lledr.
Cynnyrch cyfnod dan glo o’r fath, rhwng 1632 a chanol mis Mai 1633,
yw Geirfâu’r Fflyd, a gofnodwyd gan John Jones mewn tri llyfr, sef
llawysgrifau Peniarth 304, Peniarth 305 a Peniarth 306. Yn wahanol i
eiriadur traddodiadol, lle mae’r geiriau wedi eu gosod yn nhrefn yr wyddor
gyda chyfystyron yn dilyn, ceir yma 130 rhestr o eiriau ar amrywiol
bynciau, yn cynnwys rhyngddynt dros 7,000 o ddangoseiriau, wedi eu
trefnu’n thematig gan amlaf. Prin yw’r diffiniadau, ond amlyga lleoliad
gair o fewn rhestr ei ystyr. Ceir geirfâu thematig o’r fath yn y cyfnod
modern cynnar yn Saesneg ac mewn ieithoedd Ewropeaidd eraill, ond prin
ydynt yn y Gymraeg ac ni cheir dim ar yr un raddfa â Geirâu’r Fflyd.
Mae’r rhestrau’n awgrymu dyn a chanddo ddiddordeb manwl mewn
pethau, fel y gwelir wrth iddo restru rhannau peiriannau a systemau o bob
math: o felinau dŵr a cherbydau i rannau cloeon. Mae’n ymdrin â phob
agwedd ar y bywyd amaethyddol: offer o bob math, cnydau, cloddiau a
chaeau, y da byw fesul un, gan gynnwys eu lliwiau, eu nodweddion a’r
afiechydon a’u blinai. Ceir rhestrau hynod o ddiddorol yn ymwneud â
bywyd y cartref a phensaernïaeth tai, ac ymdrinnir hefyd â chrefftwyr
traddodiadol fesul un, gan enwi eu hoffer. Rhoddir cryn sylw i ddyn, i
rannau ei gorff a’i afiechydon, ac i’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai. Yn
y trydydd llyfr rhoir y prif sylw i fyd natur, a cheir yno restrau maith o
enwau coed a’u ffrwythau, llysiau, pysgod a physgota, adar, mân
anifeiliaid a phryfetach. vi G E I R F Â U’ R F F L Y D
Mae’r Geirfâu’n agoriad llygad i ni ar fywyd ac arferion yng Nghymru
ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal â’i hiaith gyfoethog a
thafodiaith y gogledd-ddwyrain yn arbennig. Nid yw’n syndod nad yw
nifer o’r geiriau sydd ynddynt i’w canfod yn Geiriadur Prifysgol Cymru
(nac yn unrhyw eiriadur arall), nac ychwaith fod y dystiolaeth gynharaf
yn y Geiriadur dros nifer ohonynt yn perthyn i gyfnodau tipyn yn
ddiweddarach ac fel arfer i’w canfod mewn llyfrau arbenigol.
Yn ystod 1632–3, blwyddyn gyntaf ei garchariad yn y Fflyd, rhoddodd
John Jones ei holl sylw i’r gwaith hwn. Gallwn ddychmygu fod gwaith
manwl o’r fath, a ofynnai am feddwl trefnus a chanolbwyntio llwyr, wedi
bod yn gymorth iddo ddygymod ag amgylchiadau ei garchariad, a thrwy
gynhyrchu gwaith mor sylweddol, sicrhau nad âi’r cyfnod yn ofer.
Cynnyrch ymchwil Cyfnod Clo 2020 –1 fu’r gyfrol hon, a rhesymau
digon tebyg a’i hysgogodd hithau: yr awydd i ymgymryd â phrosiect y
gallwn ymgolli’n llwyr ynddo tra oedd trefn arferol bywyd ar chwâl, a’r
awydd i sicrhau bod rhywbeth o fudd yn deillio o gyfnod mor anodd ei
ddiffinio. Rhoddodd y gwaith hefyd fywyd cymdeithasol i mi, gan i mi
fwynhau gohebu â nifer fawr o arbenigwyr yn y pynciau a drafodir, ac
mae’r nodiadau yn gymaint cyfoethocach yn sgil y trafodaethau hynny.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Gruffudd Antur, Maredudd ap Huw, Gareth
Bevan, Richard Crowe, Jenny Day, Iwan Edgar, Angharad Elias, Dylan
Foster Evans, Angharad Fychan, Carwyn Graves, Robin Gwyndaf, Elinor
Gwynn, Marged Haycock, Daniel Huws, Richard Ireland, Diana Luft,
Ceridwen Lloyd-Morgan, Rhisiart Owen, Paul Russell, Richard Suggett,
Eurwyn Wiliam a Mary Williams. Rwyf yn arbennig o ddyledus i Mary
Burdett-Jones ac Andrew Hawke am eu sylwadau gwerthfawr ar y gwaith
a’u hanogaeth yn gyffredinol.
Bu cydweithio gyda Gwen Gruffudd ar fersiwn terfynol y gwaith yn
bleser digymysg, ac rwyf yn ddyledus iawn iddi am ei gwaith manwl a’i
hawgrymiadau gwerthfawr. Mawr hefyd yw fy niolch i Elin Haf Gruffydd
Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, am
ei chefnogaeth; i’m cyd-weithwyr oll ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru;
i staff hynaws a chymwynasgar Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac
Amgueddfa Werin Cymru; ac i Llion Wigley a Steven Goundrey o Wasg
Prifysgol Cymru am eu hawgrymiadau doeth ar hyd y daith.
Mae fy niolch pennaf i deulu Collen, am fod mor amyneddgar wrth i mi
fod yn llawer rhy barod i ddianc ‘i’r Fflyd’ wrth baratoi’r gyfrol hon.
Fel man cychwyn ar gyfer ymchwil bellach y bwriedir y gwaith hwn, a
hynny i’r darllenydd yn ogystal ag i mi fy hun.
Ann Parry Owen Cynnwys
RHAGAIR ................................................................................................ v
DELWEDDAU ........................ xi
BYRFODDAU ...................... xiii
RHAGYMADRODD
1. John Jones: Bywgraffiad byr .............................................................. 1
2. Gwaith geiriadurol a geirfaol John Jones ........................................... 8
1. Gwaith geiriadurol . 9
2. Gwaith geirfaol .................................... 10
3. Peniarth 308 ......... 11
3. Geirfâu’r Fflyd
1. Y tair llawysgrif a’u cynnwys ............................................. 14
2. Y drefn thematig .................................. 18
3. Natur a phwysigrwydd Geirfâu’r Fflyd ............................... 21
4. Ffynonellau .......... 23
5. Y Cyfreithiau ....................................................................... 24
6. Vocabularium Cornicum ..................... 26
4. Geiriaduron thematig ....... 29
5. John Jones a’r traddodiad geiriadurol Cymraeg ............................... 31
6. Iaith ac orgraff
1. Iaith ...................................................................................... 36
2. Orgraff ei Gymraeg ............................. 40
3. Orgraff ei Saesneg ............................... 42
7. Diweddglo ........................ 43
DULL Y GOLYGU
Rhan I: Y Testun ..................................................................... 45
Rhan II: Y Mynegai Nodiadol ................. 47
RHAN I: Y TESTUN
Llyfr I: Peniarth 304
1 Am Dduw, y Nef a’r 3 Y Flwyddyn ....................... 55
Engylion .......................... 53 4 Y Misoedd ......................... 56
2 Hinoedd: Oerfel a Gwres ... 54 5 Y Pedwar Defnydd ............ 57 viii G E I R F Â U’ R F F L Y D
6 Dyn a’i Holl Ryw .............. 61 43 Clawdd ............................. 100
7 Dyn a’i Rannau .................. 64 44 Coed ................................. 101
8 Tŷ ac Anllodd .................... 66 45 Offer Teuluyddiaeth......... 101
9 Neuadd ............................... 69 46 Clwyfau ar Ddynion ........ 103
10 Hundy ................................ 70 47 Mesurau ........................... 105
11 Stafell . 71 48 Pwysau a’u Perthynas ...... 106
12 Cell .... 72 49 Chwaryau ......................... 106
13 Trull ... 72 50 Arfau ................................ 107
14 Cegin ................................. 74 51 Graddau Gwŷr ................. 108
15 Popty .. 76
16 Cyfrdy 77 Llyfr II: Peniarth 305
17 Amaerdy ............................ 78
18 Odyn .................................. 80 52 Gof a’i Offer .................... 109
19 Golchdy ............................. 80 53 Offer Saer Pren ................ 110
20 Cigydd ............................... 81 54 Cowper: ei Offer .............. 112
21 Eidion 81 55 Turnor a’i Offer ............... 112
22 Twrch ................................. 81 56 Gogrydd: ei Offer ............ 112
23 Mollt . 82 57 Pledrydd a’i Offer 112
24 Oen bras ............................. 82 58 Saer Maen ........................ 113
25 Carw....................................83 59 Gwehydd: ei Offer ........... 114
26 Llo.......................................83 60 Pannwr: ei Offer .............. 115
27 Gweithgell Merched .......... 83 61 Teiliwr: ei Swydd ............ 116
28 Dodrefn Tŷ ........................ 85 62 Barcer: ei Offer ................ 117

Voir icon more
Alternate Text