225
pages
Welsh
Ebooks
2017
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
225
pages
Welsh
Ebooks
2017
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
27 avril 2017
Nombre de lectures
2
EAN13
9781786830357
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
11 Mo
Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.
Publié par
Date de parution
27 avril 2017
Nombre de lectures
2
EAN13
9781786830357
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
11 Mo
Perfformio’r Genedl
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 1 11-Apr-17 9:09:06 AMPerfformio’r Genedl
Ar Drywydd Hywel Teif Edwards
golygwyd gan
Anwen Jones
Gwasg Prifysgol Cymru
2017
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 3 11-Apr-17 9:09:06 AMHawlfraint © Y Cyfranwyr, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn
na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw
ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo,
recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol
Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-034-0
e-ISBN 978-1-78683-035-7
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i’w cydnabod yn awduron
ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint,
Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cysodwyd yng Nghymru gan Eira Fenn Gaunt, Caerdydd.
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham.
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 4 11-Apr-17 9:09:06 AMCynnwys
Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol vii
Anwen Jones
Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth
y Theatr Gymraeg
Gareth Ll}r Evans 1
Codi’r Llen, Ffotograffaeth a Hanesyddiaeth
‘Annheyrngar’ Hywel Teif Edwards
Roger Owen31
Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg
Ioan Williams 49
Chwarae Rhan yng Nghynhyrchiad Cymru Fydd
M. Wynn Thomas91
Perfformio Cenedl y Dychymyg: Iolo Morganwg
a Dechreuadau Gorsedd y Beirdd
Cathryn A. Charnell-White 117
Yr Eisteddfod yng Ngweithiau Hywel Teif Edwards:
Parth Ymreolaethol dros dro?
Rowan O’Neill147
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 5 11-Apr-17 9:09:06 AMCynnwys
Celfyddydau Perfformiadol Cymru: Hanes Newydd,
Hanesyddiaeth Newydd – Hywel Teif Edwards a
Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909
Anwen Jones 165
Mynegai197
vi
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 6 11-Apr-17 9:09:06 AMRhagymadrodd Golygydd y Gyfrol
Anwen Jones
Yn 2008, cyhoeddodd Gwasg Gomer gyfrol deyrnged i Hywel Teif
Edwards o dan y teitl Cawr i’w Genedl: Cyfrol i gyfarch yr Athro Hywel
1Teif Edwards. Ynddi, ceir casgliad o erthyglau gan arbenigwyr sy’n
faengar yn eu dewis-feysydd ac yn rhannu diddordeb Edwards
yn y cyfnod hanesyddol a aeth a’i fryd; y bedwaredd ganrif ar
bymtheg. Dichon mai fel arbenigwr ar Gymru’r bedwaredd ganrif
ar bymtheg yr adwaenir Edwards yn bennaf ac heb os nac onibai,
mae ei afael ar y cyfnod hwnnw yn gadarn. Yn wir, mae’r gyfrol
gyfarch yn dystiolaeth iddo osod conglfaen astudiaethau
hanesyddol o bob agwedd ar y diwylliant a’r meddylfryd Cymraeg a
Chymreig yn y cyfnod Fictorianaidd. Pan luniwyd y gyfrol, roedd
Edwards yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau, yn llais adnabyddus
yn y wasg ac yn dal i weithio gyda’i egni arferol tuag at
gyhoeddiadau pellach yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, rydym wedi colli’r
hanesydd ac wedi ein hamddifadu o gyfaredd ei berson a’i
bersonol iaeth. Ysywaeth, nid cyfrol goffa na chyfrol gofannol mo’r gyfrol
hon.
Ysfa ganolog y gyfrol hon yw datgan ein hawl ar yr hyn a
ddywedodd Edwards am ddrama, am theatr ac am berfformio yng Nghymru,
ac yn y Gymraeg, a’i ddefnyddio i ysbarduno ymateb cyfredol,
cyfoes a chyffrous i un o fyfyrdodau ysgolheigaidd mwyaf
treiddgar yr ugeinfed ganrif o’r cyfwr a’r psyche Cymreig. Ysgrifennodd
Edwards lawer, yma a thraw, ar y ddrama, y theatr ac ar berfformio
yng Nghymru. Hyd yma, ni fu ymgais i gydlynu’r gwahanol
agweddau ar y drafodaeth honno a’u dwyn ynghyd. Nid yw’r
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 7 11-Apr-17 9:09:07 AMRhagymadrodd
cyffro yn deillio yn gymaint o’r cyfraniadau gwahanol i’r gyfrol
hon ond yn hytrach i’r gwaith a fu’n sail iddi – hebddo ni fyddai
yma ddim.
Mewn adolygiad yn Golwg, yn 1990, ymatebodd Edwards i
gynhyrchiad theatrig o Val gan Dyfan Roberts ac Yma o Hyd gan Mair
Tomos Ifans. Roedd hi’n gwbl eglur i destun y dramâu yn ogystal
â’u dull cyfwyniadol blesio’r adolygydd ac iddo brof gwefr wrth
wrando, clywed, gweld a gwylio; ‘[D]au actor yn llefaru dros
hardd2wch perthyn, dros hunan-barch, dros ymrwymiad Cristnogol’.
Wrth rheswm, adolygiad byr mewn cylchgrawn poblogaidd o
noson o adloniant theatraidd, byrhoedlog a geir yma ac amhriodol
fyddai gosod arno ormod o bwys yng nghyd-destun ehangach y
swmp o waith ysgolheigaidd a gynhyrchwyd gan Edwards dros
ddegawdau lawer. Eto, mae’r adolygiad teimladwy hwn yn bwysig
yn nermau gweledigaeth beirniadol Edwards o hanes a chyfwr
cyfredol ei genedl. Mae hefyd yn arwyddocaol yng nghyd-destun
amcan ac uchelgais y gyfrol hon. Daw’r adolygiad â ni wyneb yn
wyneb â’r ffaith bod y dramataidd, y theatraidd a’r perfformiadol
o bwys yng ngolwg a phrofad Edwards. Er nad oedd yn hanesydd
y theatr na chwaith yn arbenigwr ar y ddrama, ysgrifennodd
Edwards yn huawdl am y dramatig, y ddrama a’r theatr yng
Nghymru mewn nifer o ddarlithoedd, erthyglau a chyfrolau. Ar
wasgar, yma a thraw, mewn gweithiau megis Yr Eisteddfod (1976),
Baich y Bardd (1978), Yr Eisteddfod Genedlaethol a Phwllheli 1875, 1925
a 1955 (1987), Codi’r Hen Wlad yn ei Hôl: 1850–1914, (1989), Llew
Llwyfo: Arwr Gwlad a’i Arwrgerdd (1990), Codi’r Llên (1998), G{yl
3Gwalia (2008) a The National Pageant of Wales (2009), ceir
gweledigaeth dreiddgar o gyfraniad yr elfennau perfformiadol ar fywyd
a phrofad y Cymry i dwf a datblygiad hunaniaeth genedlaethol,
ac i dwf a datblygiad y ddrama a’r theatr fel celfyddyd genedlaethol
o bwys.
Mae’r adolygiad yn Golwg yn arwydd o gydnabyddiaeth Edwards
o le drama, y theatr a pherfformio yn ei fywyd a’i brofad ac ym
mywyd a phrofad y genedl – ffaith y gellid, yn rhwydd ddigon, ei
cholli am nas cyfwynir gweledigaeth gyfansawdd ganddo o
bwysigrwydd a chyfraniad y cyfrwng yn ei waith. Mae’r adolygiad hefyd
yn dod â’r darllenydd wyneb yn wyneb â dryswch neu, efallai,
viii
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 8 11-Apr-17 9:09:07 AMRhagymadrodd
ddatguddiad arall. Rhaid cyfaddef ei bod hi’n anodd cysoni agwedd
ac ymdeimlad yr adolygydd hwn gyda’r hanesyddiaeth beiddgar
a beirniadol sy’n nodweddiadol o gynnyrch ysgolh eigaidd Edwards.
Yn ôl y beirniad Simon Brooks, nodweddir astudiaeth Edwards o
4Gymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddau beth. Yn gyntaf,
presenoldeb ymdriniaeth dreiddgar a thrylwyr o genedligrwydd o
safbwynt ôl-oleuedig – peth tra anarferol, chwedl Brooks, o ystyried
natur bragmataidd beirniad aeth llenyddol Gymraeg. Yn ail, fe’i
nodweddir gan gydnabyddiaeth a dathliad o amlder y profad
Cymraeg. Sut felly mae dehongli gwerthfawrogiad Edwards, yn ei
adolygiad, o’r weithred o berfformio ymlyniad rhamantus, os nad
rhyfygus, wrth ddiwylliant cenedlaethol, Cristnogol, brawdgarol
gyda’i feirniadaeth di-fewyn ar dafod o’r prosiect i hyrwyddo
gwerthoedd goleuedig yng Nghymru fodern, ôl-Lyfrau Gleision?
Bron nad ymddengys ei gyfaddefad iddo deimlo, yn ystod orig
fer y perfformiad, ‘ar ei brawf gerbron dau a wyddai eu gwerth fel
aelodau o hen genedl ac arni ddyletswydd i wneud ei rhan dros
5warineb a thegwch byw’ yn anghyson â’i daerineb mai trwy, ‘hybu
ideoleg neilltuol yn enw Cymreigtod [y] cyfyngir ar y Cymreictod
6hwnnw’.
Wrth gloi ei adolygiad, dywed Edwards, ‘Yr hyn y carwn ei nodi
yw i mi, fel llawer un arall y noson honno . . . brof feitaliti ein
diwylliant yn llifo drwof a theimlo i’r mêr pa mor enbyd fyddai
7trigo mewn gwlad heb y feitaliti hwnnw’. Mae’r clo hwn, i’m
tyb i, yn datgelu llawn arwyddocâd y ddrama, theatr a pherfformio
i Edwards ac yn esbonio sut y bu iddo drochi, dro ar ôl tro, hyd
ei fgyrnau, yn nyfroedd bas y ddrama a’r theatr yng Nghymru
heb unwaith blymio’n llwyr i’r d{r a chyhoeddi gweledigaeth
gyf ansawdd, awdurdodol o’r maes. Dywedodd Edwards am un
o arwyr ei astudiaethau hanesyddol, Llew Llwyfo, iddo fyw i
berfformio a pherfformio i fyw. Mae ei astudiaeth yn cydnabod
cyfyngderau’r math o adloniant gwerinol, myfïol a gynigiai Llew i’w
gynulleidfaoedd eisteddfodol, eiddgar ac eto mae’n llawn
edmygedd o’i sgiliau a’i fenter perfformiadol, ei allu i dafunio’i
bersonoliaeth ar gefnlen ei genedl. Yr hyn a werthfawrogai Edwards yn
hanes a pherson Llew Llwyfo oedd ei feitaliti a’i allu i rhannu’r
cyfryw nerth ac egni carismataidd trwy weithgaredd creadigol,
ix
00 Prelims Perfformio 2017_4_11.indd 9 11-Apr-17 9:09:07 AMRhagymadrodd
cymunedol, neu trwy berfformio i gynulleidfa. Yr un oedd y wefr
a gafodd Edwards wrth gyfranogi yn y cyfwyniad theatraidd o
Val ac Yma o Hyd. Yno, fe brofodd, fel aelod unigol o gynulleidfa
luosog wefr feitaliti’r actorion a ddatguddiai, yn ei dro, wefr
feitaliti’r diwylliant cymunedol roeddent yn ei ddathlu a chyfaredd
perthyn i ddiwylliant cenedlaethol Cymraeg a Chymreig. Dyma,
i’m tyb i, sydd wrth wraidd ei driniaeth aml ond anghyson o’r
ddrama a’r theatr yng Nghymru – ysfa i afael yn y feitaliti sy’n
deillio o weithred gymunedol o berfformio gyda ac i gynulleidfa,
feitaliti y byddai ymdriniaeth hanesyddol, beirniadol trylwyr yn
y traddodiad ysgolheigaidd, cyfrifol wedi ei llesteirio, os nad ei
ddifa.
Pennaf nod y gyfrol hon yw archwilio a chloriannu dylanwad
meddylfryd a gwaith Edwards ar ein hymwybyddiaeth a’n
dealltwriaeth o bwysigrwydd y ddrama a’r theatr yng Nghymru fel
agwedd ar weithgarwch celfyddydol, cenedlaethol ystyrlon. Hawlir
rôl weithredol i Edwards yn y broses o fathu, datblygu a saernïo’r
ddrama a’r theatr fodern yn sgil ei gyfraniadau amrywiol mewn
meysydd eraill perthnasol a’i ymroddiad gwaelodol i werthfawr -
ogiad o ddawn yr artist yn ei holl waith. Yn gyntaf, olrheinir
trywydd llinyn arian sy’n ymwthio i’r golwg yn gyson yng
ngweithiau amrywiol Edwards – dylanwad y dramatig, y ddrama a’r theatr
ar ddatblygiad hunaniaeth genedlaethol y Cymry o drothwy’r
bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif.
Yn ail, dangosir perthnasedd y cyfryw drafodaeth hanesyddol i
astudiaeth o gyfwr presennol y ddrama a’r theatr yng Nghymru’r
unfed ganrif ar huga