Perfformio'r Genedl , livre ebook

icon

119

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2017

icon jeton

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
icon

119

pages

icon

Welsh

icon

Ebooks

2017

icon jeton

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Lire un extrait
Lire un extrait

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus

Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.


Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol - Anwen Jones
Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg - Gareth Evans
Codi’r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth ‘Annheyrngar’ Hywel Teifi Edwards - Roger Owen
Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg - Ioan Williams
Chwarae Rhan yng nghynhyrchiad Nghymru Fydd - M. Wynn Thomas
Perfformio cenedl y dychymyg: Iolo Morganwg a dechreuadau Gorsedd y Beirdd - Cathryn Charnell-White
Yr Eisteddfod yng ngweithiau Hywel Teifi Edwards: parth ymreolaethol dros dro? - Rowan O’Neill
Celfyddydau perfformiadol Cymru: Hanes newydd, Hanesyddiaeth newydd: Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. - Anwen Jones
Mynegai
Voir icon arrow

Date de parution

27 avril 2017

Nombre de lectures

1

EAN13

9781786830364

Langue

Welsh

Poids de l'ouvrage

1 Mo

P ERFFORMIO R G ENEDL
Perfformio r Genedl
Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards
golygwyd gan
Anwen Jones -->

Gwasg Prifysgol Cymru 2017
Hawlfraint © Y Cyfranwyr, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-034-0 e-ISBN 978-1-78683-036-4
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i w cydnabod yn awduron ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Llun y clawr: Llythyr-gerdyn ar gyfer Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. Amoret Tanner/Alamy.
C YNNWYS
Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol
Anwen Jones
Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg
Gareth Llŷr Evans
Codi r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth Annheyrngar Hywel Teifi Edwards
Roger Owen
Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg
Ioan Williams
Chwarae Rhan yng Nghynhyrchiad Cymru Fydd
M. Wynn Thomas
Perfformio Cenedl y Dychymyg: Iolo Morganwg a Dechreuadau Gorsedd y Beirdd
Cathryn A. Charnell-White
Yr Eisteddfod yng Ngweithiau Hywel Teifi Edwards: Parth Ymreolaethol dros dro?
Rowan O Neill
Celfyddydau Perfformiadol Cymru: Hanes Newydd, Hanesyddiaeth Newydd - Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909
Anwen Jones
Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol
Anwen Jones
Yn 2008, cyhoeddodd Gwasg Gomer gyfrol deyrnged i Hywel Teifi Edwards o dan y teitl Cawr i w Genedl: Cyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards . 1 Ynddi, ceir casgliad o erthyglau gan arbenigwyr sy n flaengar yn eu dewis-feysydd ac yn rhannu diddordeb Edwards yn y cyfnod hanesyddol a aeth a i fryd; y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dichon mai fel arbenigwr ar Gymru r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr adwaenir Edwards yn bennaf ac heb os nac onibai, mae ei afael ar y cyfnod hwnnw yn gadarn. Yn wir, mae r gyfrol gyfarch yn dystiolaeth iddo osod conglfaen astudiaethau hanesyddol o bob agwedd ar y diwylliant a r meddylfryd Cymraeg a Chymreig yn y cyfnod Fictorianaidd. Pan luniwyd y gyfrol, roedd Edwards yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau, yn llais adnabyddus yn y wasg ac yn dal i weithio gyda i egni arferol tuag at gyhoeddiadau pellach yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, rydym wedi colli r hanesydd ac wedi ein hamddifadu o gyfaredd ei berson a i bersonoliaeth. Ysywaeth, nid cyfrol goffa na chyfrol gofiannol mo r gyfrol hon.
Ysfa ganolog y gyfrol hon yw datgan ein hawl ar yr hyn a ddywedodd Edwards am ddrama, am theatr ac am berfformio yng Nghymru, ac yn y Gymraeg, a i ddefnyddio i ysbarduno ymateb cyfredol, cyfoes a chyffrous i un o fyfyrdodau ysgolheigaidd mwyaf treiddgar yr ugeinfed ganrif o r cyflwr a r psyche Cymreig. Ysgrifennodd Edwards lawer, yma a thraw, ar y ddrama, y theatr ac ar berfformio yng Nghymru. Hyd yma, ni fu ymgais i gydlynu r gwahanol agweddau ar y drafodaeth honno a u dwyn ynghyd. Nid yw r cyffro yn deillio yn gymaint o r cyfraniadau gwahanol i r gyfrol hon ond yn hytrach i r gwaith a fu n sail iddi - hebddo ni fyddai yma ddim.
Mewn adolygiad yn Golwg , yn 1990, ymatebodd Edwards i gynhyrchiad theatrig o Val gan Dyfan Roberts ac Yma o Hyd gan Mair Tomos Ifans. Roedd hi n gwbl eglur i destun y dramâu yn ogystal â u dull cyflwyniadol blesio r adolygydd ac iddo brofi gwefr wrth wrando, clywed, gweld a gwylio; [D]au actor yn llefaru dros harddwch perthyn, dros hunan-barch, dros ymrwymiad Cristnogol . 2 Wrth rheswm, adolygiad byr mewn cylchgrawn poblogaidd o noson o adloniant theatraidd, byrhoedlog a geir yma ac amhriodol fyddai gosod arno ormod o bwys yng nghyd-destun ehangach y swmp o waith ysgolheigaidd a gynhyrchwyd gan Edwards dros ddegawdau lawer. Eto, mae r adolygiad teimladwy hwn yn bwysig yn nermau gweledigaeth beirniadol Edwards o hanes a chyflwr cyfredol ei genedl. Mae hefyd yn arwyddocaol yng nghyd-destun amcan ac uchelgais y gyfrol hon. Daw r adolygiad â ni wyneb yn wyneb â r ffaith bod y dramataidd, y theatraidd a r perfformiadol o bwys yng ngolwg a phrofiad Edwards. Er nad oedd yn hanesydd y theatr na chwaith yn arbenigwr ar y ddrama, ysgrifennodd Edwards yn huawdl am y dramatig, y ddrama a r theatr yng Nghymru mewn nifer o ddarlithoedd, erthyglau a chyfrolau. Ar wasgar, yma a thraw, mewn gweithiau megis Yr Eisteddfod (1976), Baich y Bardd (1978) , Yr Eisteddfod Genedlaethol a Phwllheli 1875, 1925 a 1955 (1987), Codi r Hen Wlad yn ei Hôl: 1850-1914 , (1989), Llew Llwyfo: Arwr Gwlad a i Arwrgerdd (1990), Codi r Llên (1998), G ŵ yl Gwalia (2008) a The National Pageant of Wales (2009), 3 ceir gweledigaeth dreiddgar o gyfraniad yr elfennau perfformiadol ar fywyd a phrofiad y Cymry i dwf a datblygiad hunaniaeth genedlaethol, ac i dwf a datblygiad y ddrama a r theatr fel celfyddyd genedlaethol o bwys.
Mae r adolygiad yn Golwg yn arwydd o gydnabyddiaeth Edwards o le drama, y theatr a pherfformio yn ei fywyd a i brofiad ac ym mywyd a phrofiad y genedl - ffaith y gellid, yn rhwydd ddigon, ei cholli am nas cyflwynir gweledigaeth gyfansawdd ganddo o bwysigrwydd a chyfraniad y cyfrwng yn ei waith. Mae r adolygiad hefyd yn dod â r darllenydd wyneb yn wyneb â dryswch neu, efallai, ddatguddiad arall. Rhaid cyfaddef ei bod hi n anodd cysoni agwedd ac ymdeimlad yr adolygydd hwn gyda r hanesyddiaeth beiddgar a beirniadol sy n nodweddiadol o gynnyrch ysgolheigaidd Edwards. Yn ôl y beirniad Simon Brooks, nodweddir astudiaeth Edwards o Gymru r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddau beth. 4 Yn gyntaf, presenoldeb ymdriniaeth dreiddgar a thrylwyr o genedligrwydd o safbwynt ôl-oleuedig - peth tra anarferol, chwedl Brooks, o ystyried natur bragmataidd beirniadaeth llenyddol Gymraeg. Yn ail, fe i nodweddir gan gydnabyddiaeth a dathliad o amlder y profiad Cymraeg. Sut felly mae dehongli gwerthfawrogiad Edwards, yn ei adolygiad, o r weithred o berfformio ymlyniad rhamantus, os nad rhyfygus, wrth ddiwylliant cenedlaethol, Cristnogol, brawdgarol gyda i feirniadaeth di-flewyn ar dafod o r prosiect i hyrwyddo gwerthoedd goleuedig yng Nghymru fodern, ôl-Lyfrau Gleision? Bron nad ymddengys ei gyfaddefiad iddo deimlo, yn ystod orig fer y perfformiad, ar ei brawf gerbron dau a wyddai eu gwerth fel aelodau o hen genedl ac arni ddyletswydd i wneud ei rhan dros warineb a thegwch byw 5 yn anghyson â i daerineb mai trwy, hybu ideoleg neilltuol yn enw Cymreigtod [y] cyfyngir ar y Cymreictod hwnnw . 6
Wrth gloi ei adolygiad, dywed Edwards, Yr hyn y carwn ei nodi yw i mi, fel llawer un arall y noson honno... brofi feitaliti ein diwylliant yn llifo drwof a theimlo i r mêr pa mor enbyd fyddai trigo mewn gwlad heb y feitaliti hwnnw . 7 Mae r clo hwn, i m tyb i, yn datgelu llawn arwyddocâd y ddrama, theatr a pherfformio i Edwards ac yn esbonio sut y bu iddo drochi, dro ar ôl tro, hyd ei figyrnau, yn nyfroedd bas y ddrama a r theatr yng Nghymru heb unwaith blymio n llwyr i r d ŵ r a chyhoeddi gweledigaeth gyfansawdd, awdurdodol o r maes. Dywedodd Edwards am un o arwyr ei astudiaethau hanesyddol, Llew Llwyfo, iddo fyw i berfformio a pherfformio i fyw. Mae ei astudiaeth yn cydnabod cyfyngderau r math o adloniant gwerinol, myfïol a gynigiai Llew i w gynulleidfaoedd eisteddfodol, eiddgar ac eto mae n llawn edmygedd o i sgiliau a i fenter perfformiadol, ei allu i daflunio i bersonoliaeth ar gefnlen ei genedl. Yr hyn a werthfawrogai Edwards yn hanes a pherson Llew Llwyfo oedd ei feitaliti a i allu i rhannu r cyfryw nerth ac egni carismataidd trwy weithgaredd creadigol, cymunedol, neu trwy berfformio i gynulleidfa. Yr un oedd y wefr a gafodd Edwards wrth gyfranogi yn y cyflwyniad theatraidd o Val ac Yma o Hyd. Yno , fe brofodd, fel aelod unigol o gynulleidfa luosog wefr feitaliti r actorion a ddatguddiai, yn ei dro, wefr feitaliti r diwylliant cymunedol roeddent yn ei ddathlu a chyfaredd perthyn i ddiwylliant cenedlaethol Cymraeg a Chymreig. Dyma, i m tyb i, sydd wrth wraidd ei driniaeth aml ond anghyson o r ddrama a r theatr yng Nghymru - ysfa i afael yn y feitaliti sy n deillio o weithred gymunedol o berfformio gyda ac i gynulleidfa, feitaliti y byddai ymdriniaeth hanesyddol, beirniadol trylwyr yn y traddodiad ysgolheigaidd, cyfrifol wedi ei llesteirio, os nad ei ddifa.
Pennaf nod y gyfrol hon yw archwilio a chloriannu dylanwad meddylfryd a gwaith Edwards ar ein hymwybyddiaeth a n dealltwriaeth o bwysigrwydd y ddrama a r theatr yng Nghymru fel agwedd ar weithgarwch celfyddydol, cenedlaethol ystyrlon. Hawlir rôl weithredol i Edwards yn y broses o fathu, datblygu a saernïo r ddrama a r theatr fodern yn sgil ei gyfraniadau amrywiol mewn meysydd eraill perthnasol a i ymroddiad gwaelodol i werthfawrogiad o ddawn yr artist yn ei holl waith. Yn gyntaf, olrheinir trywydd llinyn arian sy n ymwthio i r golwg yn gyson yng ngweithiau amrywiol Edwards - dylanwad y dramatig, y ddrama a r theatr ar ddatblygiad hunaniaeth genedlaethol y Cymry o drothwy r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Yn ail, dangosir perthnasedd y cyfryw drafodaeth hanesyddol i astudiaeth o gyflwr presennol y ddrama a r theatr yng Nghymru r unfed ganrif ar hugain trwy gyfrwng ymateb creadigol awduron y cyfraniadau amrywiol yn y gyfrol i w feddwl a i waith am ddrama, theatr a pherfformio yng Nghymru fodern.
Mae r cyfraniad agoriadol i r cyhoeddiad hwn yn gosod cywair y gyfrol at ei gilydd, sef ymgais i ymateb i ddatganiadau, trafodaethau ac ysgogiadau Edwards am natur, twf a datblygiad y ddrama a r theatr yn Ngymru gyda hyder llwyr yng ngadernid presenolrwyddd y presennol. Mae awdur y cyfraniad, Gareth Evans, yn dadlau bod trafodaethau a damcaniaethu deallusol am y ddrama a r theatr yng Nghymru wedi cychwyn a chyniwair o dan gysgod gormesol y cysyniad o gyfreithloni; cysyniad a n cymellodd i sefydlu llinyn cyswllt, neu n hytrach, l

Voir icon more
Alternate Text