Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd.’ Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006. Atodiad 8 Sylwadau Tenantiaid Sylw Mae’n sïwr bod arian mawr yn cael ei wario ar gyflogau pobl sy’n glanhau strydoedd. Hefyd pam bod goleuadau yn cael eu gadael ymlaen ar y strydoedd pan nad oes eu hangen? Cegin newydd fwy fyddai fy mlaenoriaeth i ar gyfer gwella fy nghartref. Syniad da iawn cadw bys y Cyngor ar byls y tenantiaid. Gobeithio y bydd hyn yn cario ymlaen. We need double glazed windows and doors. The kitchen and bathroom are next door to each other, this is not right. They are very slow installing double glazing in the old people’s bungalows in Pennal. Fel tenant rydwi’n meddwl ei bod yn hollbwysig bod gennym wres canolog a ffenestri newydd gan fod y ty yr ydwi’n byw ynddo yn oer iawn yn y gaeaf. Mae hyn yn fy mhoeni gan fod gen i 3 o blant ifanc. Fel tenant rydwi’n poeni bod cymaint o blant yn rasio ar hyd y llwybrau ar eu beics. Yn Hafan Elan mae amodau gwael o safbwynt gwaith paentio, ffenestri, drysau ayb. Mae’r tai yma wedi cael eu hanwybyddu yn rhy hir. Mae diogeledd yn wael iawn yma hefyd. Yn fy nghartref pesennol does yna ddim preifatrwydd i mi nac i’m plant – mae’n agored yma ac rydym yn agos i’r briffordd a ffordd lai. Mae’n annifyr yn yr haf ac yn y gaeaf. Fe ddylai fod wedi ei ffensio. O flaen ein byngalos ni mae tir glas lle mae plant yn chwarae ond mae c ŵn yn baeddu yma hefyd. Fyddai’n bosibl i ...
Voir